| Argraffu'r canllawiau llawn

Costau staff

Gwasanaethau asiant etholiad neu staff eraill

Mae hyn yn cynnwys cost yr asiant etholiad neu unrhyw berson arall sy’n gweithio ar gyfer etholiad yr ymgeisydd. Rhaid ichi gynnwys holl gostau staff, fel cyflog gros yr aelod staff, unrhyw lwfansau ychwanegol, a’ch cyfraniadau pensiwn ac yswiriant gwladol fel eu cyflogwr. Mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth ariannol, gan gynnwys lwfansau, a ddarperwch chi i dderbyn eu gwasanaethau.

Staff sy’n monitro’r cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau eraill y wasg

Mae’n cynnwys costau staff sy’n ymwneud â rheoli a monitro sianeli neu blatfformau cyfryngau cymdeithasol a’r gwaith o gasglu data i alluogi ymgyrchu bwriadol. Mae hyn yn cynnwys cyflogi staff i ddadansoddi a didoli’r data a chost staff i fonitro a phostio neu ymateb i unrhyw fath o gyfryngau cymdeithasol neu gyfrif arall.

Mae’n cynnwys costau staff sy’n ymwneud â rheoli unrhyw fath o weithgarwch y wasg, gan gynnwys staff sy’n gysylltiedig ag unrhyw fath o weithgarwch cyfryngau cymdeithasol, yn ei reoli neu’n ei fonitro mewn unrhyw ffordd sy’n gysylltiedig gydag etholiad yr ymgeisydd.

Amser gwirfoddolwyr

Ni ddylech gynnwys cost gwasanaethau asiant nag unrhyw berson arall sy’n wirfoddolwr.

Ni ddylech gynnwys costau teithio, bwyd na llety pobl tra maent yn ymgyrchu ar eich rhan, os ydynt yn talu'r costau eu hunain. 

Fodd bynnag, mae unrhyw gostau eraill rydych chi’n eu talu drostynt, neu’n eu had-dalu iddynt, megis cludiant neu lety, yn cyfrif fel eich gwariant.

Weithiau, efallai na fyddwch yn siŵr os ydy rhywun sy’n gweithio ar gyfer eich ymgyrch yn wirfoddolwr neu os ddylech gyfrif ei amser yn eich terfyn gwariant. Er enghraifft, efallai ei fod yn cynnig gwasanaethau proffesiynol tebyg i’r rhai y mae’n eu gwneud i chi. 

Er enghraifft, bydd yn wirfoddolwr:

  • os nad yw ei gyflogwr yn ei dalu am yr amser mae’n ei dreulio ar eich ymgyrch
  • os yw’n defnyddio ei wyliau blynyddol
  • os yw’n hunangyflogedig, ni fyddwch yn elwa o unrhyw yswiriannau proffesiynol sydd ganddo

Os yw’n defnyddio deunyddiau neu offer arbenigol, mae’n debygol y bydd y defnydd o’r rhai, a ddarperir am ddim, yn wariant tybiannol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Medi 2025