| Argraffu'r canllawiau llawn

Hysbysebu o unrhyw fath

Costau cyffredinol

Mae enghreifftiau yn cynnwys costau:

  • gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safleoedd neu gyfleusterau
  • offer
  • hawliau delweddau neu ffioedd trwyddedu
  • papur neu ddeunyddiau eraill

a ddefnyddir mewn cysylltiad â hysbysebu o unrhyw fath. Mae hyn yn cynnwys costau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu a hyrwyddo hysbysebion.

Er enghraifft, llogi ffotograffydd a lleoliadau i gynhyrchu delweddau at ddefnydd mewn deunydd hysbysebu neu brynu safle mwy amlwg ar dudalen peiriant chwilio.

Efallai y bydd gennych hefyd gostau yn gysylltiedig ag arddangos deunydd hysbysebu mewn lleoliad, fel prynu placardiau, rhwymyn cebl neu lud.

Offer cyfrifiadura ac argraffu

Pan mae papur, offer llungopïo neu beiriant argraffu yn cael ei brynu neu ei logi ar gyfer prif ddefnydd yn yr ymgyrch, rhaid adrodd am y gost lawn.

Mae’n cynnwys costau sy’n gysylltiedig ag offer argraffu neu gyfrifiadura mewn cysylltiad â hysbysebu. Mae angen adrodd am y costau hyn ac eithrio:

  • pan mae’r offer argraffu neu gyfrifiadura wedi’i gaffael gan yr ymgeisydd yn bennaf ar gyfer ei ddefnydd personol1
  • pan mae unigolyn arall yn darparu’r offer argraffu neu gyfrifiadura. Mae’r offer wedi’i gaffael gan yr unigolyn hwnnw ar gyfer ei ddefnydd personol ac mae’r ymgeisydd yn cael ei ddefnyddio am ddim2

Enghraifft A

Mae’r ymgeisydd yn llogi peiriant argraffu proffesiynol i argraffu hysbysebion. Gan y llogir yr argraffwr yn benodol ar gyfer defnydd yn yr ymgyrch, rhaid adrodd am gost lawn llogi’r argraffwr.

Enghraifft B

Mae gwirfoddolwr yn caniatáu’r ymgyrch i ddefnyddio ei beiriant argraffu a’i offer swyddfa cartref am ddim. Nid yw hyn yn wariant ymgeisydd gan fod eithriad o ran defnyddio offer argraffu neu gyfrifiadura personol rhywun pan nad oes angen i’r ymgeisydd dalu cost. Ni ddylid adrodd am hyn.

Meddalwedd

Mae’n cynnwys cost unrhyw feddalwedd, o unrhyw fath, i’w defnyddio ar unrhyw ddyfais er mwyn:

  • dylunio a chynhyrchu deunydd hysbysebu yn fewnol
  • rhannu neu hwyluso’r gwaith o ddosbarthu deunydd hysbysebu

boed y deunydd hwnnw’n cael ei ddosbarthu’n ddigidol, yn electronig neu mewn unrhyw ffordd arall.

Er enghraifft, ffi trwyddedu ar gyfer rhaglen feddalwedd at ddefnydd ar ddyfais neu brynu meddalwedd AI i gynhyrchu hysbysebion.

Gwefannau a deunydd digidol arall

Mae’n cynnwys costau:

  • lletya a chynnal gwefan neu ddeunydd electronig/digidol arall sy’n hyrwyddo’r ymgeisydd 
  • dylunio a chreu’r wefan
  • cyfran o unrhyw wefan neu ddeunydd sy’n cael ei sefydlu er mwyn caffael cronfeydd ar gyfer yr ymgeisydd ond sydd hefyd yn hyrwyddo’r ymgeisydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir 

Deunydd ar gyfer rhannu

Mae’n cynnwys costau sy’n gysylltiedig â gwneud deunydd hysbysebu ar gael i:

  • eraill ei lawrlwytho a’i ddefnyddio
  • bostio am yr ymgeisydd a hyrwyddo’r ymgeisydd drwy unrhyw fath o sianel neu blatfform cyfryngau cymdeithasol

Er enghraifft, costau cynhyrchu deunydd hysbysebu i hyrwyddo’r ymgeisydd sy’n cael ei bostio ar dudalen sianel cyfryngau cymdeithasol ac sy’n annog dilynwyr i'w rannu.

Os ydych chi’n rhoi deunydd ar wefan fel bod pobl yn gallu ei argraffu at eu defnydd personol, megis posteri ffenestri neu ffurflenni deiseb, mae’r costau dylunio a’r wefan yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd. Nid oes angen i chi gynnwys costau argraffu pobl yn rhan o’ch terfyn gwariant, oni bai bod pobl yn argraffu dogfennau ar eich rhan.

Os yw’r deunydd yn gallu cael ei argraffu a’i ddosbarthu i bleidleiswyr -er enghraifft taflen - bydd angen i chi nodi’r glir sut yr ydych yn disgwyl i bobl ei ddefnyddio. 

Os ydych yn awdurdodi defnydd ehangach o’r deunydd, efallai y bydd y costau cynhyrchu yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd, pwy bynnag sy'n gwneud yr argraffu.   

Rhwydweithiau

Mae’n cynnwys costau sy’n gysylltiedig ag unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy’n:

  • hwyluso’r broses o rannu deunydd hysbysebu mewn unrhyw ffordd
  • hwyluso neu gynyddu gwelededd deunydd hysbysebu mewn unrhyw ffordd 

Er enghraifft, prynu hunaniaethau digidol a ddefnyddir er mwyn gwneud i ddeunydd ymddangos fel pe bai wedi cael ei weld a’i gymeradwyo gan nifer fawr o ddefnyddwyr ar blatfform cyfryngau cymdeithasol.

Costau eraill

Yn ogystal, nid oes rhaid ichi gynnwys costau bwyd na chostau llety pobl tra maent yn darparu gwasanaethau i chi o ran hysbysebu, os ydynt yn talu’r costau eu hunain. Er enghraifft, os yw eich gwirfoddolwyr yn prynu cinio i’w hunain wrth osod posteri o amgylch eich ardal etholiadol.

Serch hynny, mae unrhyw dreuliau bwyd neu lety yr ydych chi neu rywun arall yn eu talu drostynt, neu yn eu had-dalu amdanynt, yn cyfrif fel eich gwariant.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Hydref 2025