| Argraffu'r canllawiau llawn

Deunydd digymell a anfonir at etholwyr

Costau cyffredinol

Mae enghreifftiau yn cynnwys costau:

  • gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safleoedd neu gyfleusterau
  • offer
  • hawliau delweddau neu ffioedd trwyddedu
  • papur neu ddeunyddiau eraill

a ddefnyddir mewn cysylltiad â deunydd digymell i bleidleiswyr. Mae hyn yn cynnwys costau cynhyrchu a dosbarthu'r deunydd mewn unrhyw ffordd.

Er enghraifft, cost amlenni a stampiau neu brynu system ar gyfer anfon e-byst.

Mae’n cynnwys y gost o gyrchu, prynu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy’n hyrwyddo neu’n cynyddu gwelededd unrhyw ddeunydd digymell ar unrhyw blatfform.

Er enghraifft, mae ymgeisydd yn talu datblygwr i greu ap sy’n hwyluso’r gwaith o dargedu ei ddeunydd ar sianel cyfryngau cymdeithasol.

Mae’n cynnwys y gost o oruchwylio a chynnal yr holl gyfryngau cymdeithasol, cyfryngau digidol neu ddulliau eraill o ddosbarthu deunydd digymell. Mae hyn yn cynnwys cynnal yr holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys y rhai a gynhelir gan endid/unigolyn arall.

Offer cyfrifiadura ac argraffu

Pan mae papur, offer llungopïo neu beiriant argraffu yn cael ei brynu neu ei logi ar gyfer prif ddefnydd yn yr ymgyrch, rhaid adrodd am y gost lawn.

Mae’n cynnwys costau sy’n gysylltiedig ag offer argraffu neu gyfrifiadura mewn cysylltiad â deunydd digymell i bleidleiswyr. 

Mae angen adrodd am y costau hyn ac eithrio:

  • pan mae’r offer argraffu neu gyfrifiadura wedi’i gaffael gan yr ymgeisydd yn bennaf ar gyfer ei ddefnydd personol1  
  • pan mae unigolyn arall yn darparu’r offer argraffu neu gyfrifiadura. Mae’r offer wedi’i gaffael gan yr unigolyn hwnnw ar gyfer ei ddefnydd personol ac mae’r ymgeisydd yn cael ei ddefnyddio am ddim2  

Enghraifft A

Mae’r ymgeisydd yn prynu peiriant argraffu i argraffu taflenni y bydd yn eu danfon i bleidleiswyr yn yr ardal etholiadol. Gan y prynir y peiriant argraffu yn benodol ar gyfer defnydd yn yr ymgyrch, rhaid adrodd am gost lawn prynu’r peiriant argraffu.

Enghraifft B

Mae gwirfoddolwr yn caniatáu’r ymgyrch i ddefnyddio ei beiriant argraffu a’i offer swyddfa cartref am ddim. Nid yw hyn yn wariant ymgeisydd gan fod eithriad o ran defnyddio offer argraffu neu gyfrifiadura personol rhywun pan nad oes angen i’r ymgeisydd dalu cost. Ni ddylid adrodd am hyn.

Cronfeydd data a gwybodaeth am bleidleiswyr

Mae hyn yn cynnwys costau:

  • meddalwedd TG neu gronfeydd data cyswllt
  • setiau data neu ddadansoddiadau data eraill
  • unrhyw wybodaeth, drwy ba bynnag ffordd

a ddefnyddir i hwyluso’r broses o anfon deunydd digymell at bleidleiswyr. Mae hyn yn cynnwys caffael, datblygu a chynnal y data hwn.

Er enghraifft, prynu cyfeiriadau e-bost i dargedu pleidleiswyr

Mae’n cynnwys y gost o gyrchu, cael neu ddatblygu setiau data, gan gynnwys dadansoddi data er mwyn targedu pleidleiswyr drwy ba bynnag ffordd, gan gynnwys cost asiantaethau, sefydliadau neu eraill sy’n adnabod grwpiau o bleidleiswyr, drwy ba bynnag ffordd.

Er enghraifft, cost unrhyw asiantaeth a delir i ddadansoddi cynnwys cyfryngau cymdeithasol er mwyn hwyluso targedu pleidleiswyr mewn ardal etholiadol benodol a’r gost o fodelu gan asiantaeth yn seiliedig ar y dadansoddi hwnnw.

Mae’n cynnwys cost unrhyw wasanaethau i adnabod pleidleiswyr sy’n cael eu prynu, eu datblygu neu eu darparu cyn y cyfnod a reoleiddir, ond sy’n cael eu defnyddio i dargedu pleidleiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir.

Pan geir gwybodaeth neu fynediad at wybodaeth gan drydydd parti, mae'r gost fasnachol o gael y wybodaeth honno gan y trydydd parti wedi’i chynnwys.

Anerchiad etholiadol

Mae gan bob ymgeisydd yr hawl i gael costau postio am ddim er mwyn anfon dau anerchiad etholiadol at bleidleiswyr yn yr etholaeth. Rhaid i’r anerchiad gynnwys materion sy’n gysylltiedig â’r etholiad yn unig.3  

Rhaid adrodd am gostau cynhyrchu’r anerchiadau etholiadol fel gwariant ymgeisydd. Nid yw costau postio’r anerchiadau etholiadol yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd.4

Costau eraill 

Yn ogystal, nid oes rhaid ichi gynnwys costau bwyd na chostau llety pobl tra maen nhw’n darparu gwasanaethau i chi sy’n gysylltiedig â deunydd digymell, os ydynt yn talu’r costau eu hunain. Er enghraifft, os yw eich gwirfoddolwyr yn prynu cinio i’w hunain wrth ddanfon taflenni i bleidleiswyr.

Serch hynny, mae unrhyw dreuliau bwyd neu lety yr ydych chi neu rywun arall yn prynu iddynt, neu yn eu had-dalu amdanynt, yn cyfrif fel eich gwariant.

Costau sydd wedi’u heithrio

Nid oes rhaid ichi adrodd am unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â chaffael data fel y caniateir dan unrhyw statud neu reoliad.

Er enghraifft, mae gan ymgeiswyr yr hawl i gael copi o’r gofrestr etholiadol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Ebrill 2026