Beth y mae'n rhaid ei gynnwys mewn cais a wneir drwy wneud datganiad o gysylltiad lleol?

Beth y mae'n rhaid ei gynnwys mewn cais a wneir drwy wneud datganiad o gysylltiad lleol?

Mae'n rhaid i gais i gofrestru drwy wneud datganiad o gysylltiad lleol gynnwys yr holl bethau canlynol:1  

  • enw llawn yr ymgeisydd
  • y cyfeiriad lle mae'r ymgeisydd yn gwneud cais i gael ei gofrestru 
  • unrhyw gyfeiriad y rhoddodd yr ymgeisydd y gorau i fyw ynddo yn ystod y 12 mis cyn dyddiad y cais a, lle nad yw'r cyfeiriad hwnnw yn y DU, gwybodaeth yn nodi a oedd yr unigolyn hwnnw wedi'i gofrestru fel etholwr dramor yn ystod y cyfnod hwn.
  • gwybodaeth yn nodi a yw'r ymgeisydd yn byw mewn unrhyw gyfeiriad arall, gan gynnwys unrhyw gyfeiriad lle mae'r ymgeisydd wedi'i gofrestru ar hyn o bryd ac y mae'n honni bod ganddo'r hawl i fod wedi'i gofrestru yno o hyd
  • dyddiad geni'r ymgeisydd neu, os na all yr ymgeisydd roi ei ddyddiad geni, mae'n rhaid iddo roi'r rheswm pam na all wneud hynny a rhoi datganiad yn nodi a yw o dan 16 oed, yn 16 neu 17 oed neu'n 18 oed neu drosodd,2 neu'n 76 oed neu drosodd
  • rhif Yswiriant Gwladol yr ymgeisydd neu, os na all roi'r wybodaeth hon, y rheswm pam na all wneud hynny.  Nid yw hyn yn gymwys pan fydd yr ymgeisydd o dan 16 oed. 
  • cenedligrwydd neu genedligrwyddau'r ymgeisydd neu, os na all roi'r wybodaeth hon, y rheswm pam na all wneud hynny 
  • gwybodaeth yn nodi a yw'r ymgeisydd wedi gwneud cais i hepgor ei enw oddi ar y gofrestr olygedig. Caiff unigolyn o dan 16 oed ei eithrio'n awtomatig o'r gofrestr olygedig. Ni ddylid cynnwys manylion unrhyw unigolyn o dan 16 oed ar unrhyw fersiwn o'r gofrestr gyhoeddedig, gan gynnwys y gofrestr olygedig.
  • datganiad bod cynnwys y cais yn wir
  • dyddiad y cais
  • y datganiad priodol

Mae'n rhaid i'r ffurflen gais hefyd ddarparu gofod er mwyn nodi ei enw blaenorol diweddaraf3 (os yw'n berthnasol) ac esboniad nad yw darparu'r wybodaeth hon yn orfodol ond y gall helpu wrth ddilysu ei hunaniaeth ac os na chaiff ei darparu, ei bod yn bosibl y bydd angen gwybodaeth bersonol ychwanegol.


Rhaid i'r ymgeisydd lofnodi a dyddio datganiad o gysylltiad lleol a nodi'r canlynol:4  
enw llawn yr ymgeisydd 

  • y cyfeiriad y gellir anfon gohebiaeth iddo neu ddatganiad yn cadarnhau ei fod yn fodlon casglu gohebiaeth o'r Swyddog Cofrestru Etholiadol
  • i ba gategori y mae ei ddatganiad yn perthyn, e.e. claf iechyd meddwl, carcharor ar remand neu unigolyn nad oes ganddo gyfeiriad sefydlog
  • yn achos unigolyn nad oes ganddo gyfeiriad sefydlog, cyfeiriad man y mae'n treulio cryn dipyn o'i amser yno, neu gyfeiriad yn agos at y man hwnnw
  • yn achos carcharor ar remand, enw a chyfeiriad y man lle y mae'n cael ei gadw, yn ogystal â'r cyfeiriad lle y byddai'n byw pe na fyddai yn y ddalfa. Os na all roi cyfeiriad o'r fath, cyfeiriad lle y bu'n byw yn flaenorol. 
  • yn achos claf iechyd meddwl, enw a chyfeiriad yr ysbyty iechyd meddwl, yn ogystal â'r cyfeiriad lle y byddai'n byw pe na fyddai'n glaf. Os na all roi cyfeiriad o'r fath, cyfeiriad lle y bu'n byw yn flaenorol
  • yn achos unigolyn o dan 16 oed sy'n blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu a fu'n derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu sy'n cael ei gadw mewn llety diogel, cyfeiriad yng Nghymru lle y bu'n byw yn flaenorol5  
  • ei fod wedi cael ei ben-blwydd yn 18 oed, neu os nad yw, ei ddyddiad geni.
  • ei fod yn ddinesydd tramor cymwys, yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd un o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd 

Lle y gwneir datganiad o gysylltiad gan unigolyn o dan 18 oed at ddibenion cofrestru ar y gofrestr llywodraeth leol, mae'n rhaid i'r cyfeiriad lle y byddai'n byw heblaw am ei sefyllfa bresennol, neu lle mae wedi byw yn y gorffennol neu lle y mae'n treulio cryn dipyn o'i amser, fod yn gyfeiriad yng Nghymru.6   

Yn unrhyw un o is-etholiadau Senedd Cymru neu Senedd y DU, rhaid i unrhyw ddatganiad o gysylltiad lleol gan unigolyn digartref a geir yn ystod y cyfnod rhwng y dyddiad y daw sedd yn wag a'r dyddiad y daw'r broses enwebu i ben gynnwys datganiad yn nodi bod yr ymgeisydd wedi treulio cryn dipyn o amser yn ystod y tri mis diwethaf yn y cyfeiriad yr honnir bod ganddo'r hawl i gael ei gofrestru mewn perthynas ag ef neu'n agos ato.7
 
Os bydd unigolyn yn gwneud datganiad o gysylltiad lleol yn nodi mwy nag un cyfeiriad neu'n gwneud mwy nag un datganiad ar yr un dyddiad ac yn nodi gwahanol gyfeiriadau, bydd y datganiad neu'r datganiadau yn ddi-rym.8    
 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Gorffennaf 2022