Adnewyddu datganiadau o gysylltiad lleol

Adnewyddu datganiadau o gysylltiad lleol

Mae gan unigolyn sydd wedi'i gofrestru drwy ddatganiad o gysylltiad lleol yr hawl i barhau wedi'i gofrestru tan ddiwedd y cyfnod 12 mis sy'n dechrau gyda'r dyddiad y daeth y cofnod i rym gyntaf, ar yr amod bod yr amodau cofrestru eraill wedi'u bodloni o hyd. 

Bydd angen i chi gadw cofnod yn dangos pryd mae angen anfon ffurflenni atgoffa. Mae'n rhaid i chi atgoffa'r etholwr bod angen iddo wneud datganiad newydd os yw'n dymuno parhau wedi'i gofrestru.1 Rhaid i'r ffurflen atgoffa gael ei hanfon rhwng 9 a 10 mis ar ôl y dyddiad pan ddaw'r cofnod i rym gyntaf2  a dylai gynnwys datganiad i'r etholwr ei gwblhau. Os na fyddwch wedi cael datganiad newydd, mae'n ofynnol i chi anfon ail ffurflen atgoffa rhwng 21 diwrnod a 28 diwrnod ar ôl anfon y ffurflen atgoffa gyntaf.3  

Ni ddylid anfon ffurflenni atgoffa os byddwch wedi cael gwybod nad oes gan yr unigolyn yr hawl i wneud y datganiad perthnasol mwyach.4
  
Lle na chaiff datganiad ei adnewyddu o fewn y cyfnod 12 mis ac y caiff yr unigolyn ei dynnu oddi ar y gofrestr, bydd hefyd yn colli unrhyw drefniant pleidleisio absennol a oedd ar waith.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am hysbysu etholwyr y byddant yn colli eu hawl i drefniadau pleidleisio absennol yn ein canllawiau ar bleidleisio absennol.

Dylech ystyried y ffordd fwyaf priodol o gael adnewyddiad gan y rheini sydd wedi cofrestru drwy ddatganiad o gysylltiad lleol. Gall fod yn briodol, yn ogystal ag anfon hysbysiad adnewyddu drwy'r post, ymweld yn bersonol er mwyn sicrhau bod yr etholwr wedi cael y ffurflen atgoffa a'r datganiad.  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021