Sut y dylid prosesu ceisiadau a wneir drwy ddatganiad o gysylltiad lleol?

Sut y dylid prosesu ceisiadau a wneir drwy ddatganiad o gysylltiad lleol? 

Cydnabod ceisiadau

Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i gydnabod cais, er bod croeso i chi anfon cydnabyddiaeth. Ym mhob achos, mae'n ofynnol i chi anfon cadarnhad os bydd y cais yn llwyddiannus, fel y nodir isod.

Dilysu ceisiadau 

Dylid prosesu pob cais a datganiad a dilysu hunaniaeth yr ymgeisydd cyn gynted â phosibl ar ôl eu derbyn. 

Os byddwch yn derbyn cais lle nad yw'r cyfeiriad cymhwyso yn rhan o'ch ardal, dylid ei anfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol ar unwaith.

Mae'n rhaid i unrhyw ymgeisydd na ellir cyfateb eu data â data DWP ddarparu tystiolaeth ddogfennol neu, os na all ddarparu tystiolaeth ddogfennol, ardystiad yn yr un ffordd â phobl sy'n gwneud cais i gofrestru fel etholwr cyffredin. Gweler ein harweiniad ar ddilysu, eithriadau ac ardystiadau.

Gellir anfon pob gohebiaeth rhyngoch chi ac ymgeiswyr yn electronig. Yn ogystal, caniateir i ymgeiswyr ddarparu ardystiadau neu dystiolaeth ddogfennol trwy ddulliau electronig megis ffacs neu ddelwedd wedi'i sganio.

Lle y gwneir cais drwy ddatganiad o gysylltiad lleol gan unigolyn o dan 18 oed at ddiben cofrestru ar y gofrestr llywodraeth leol, ac na ellir dilysu hunaniaeth yr unigolyn hwnnw drwy ddefnyddio cofnodion addysg neu ddata lleol eraill, dylech ofyn iddo ddarparu tystiolaeth ddogfennol, neu os na all wneud hynny, ardystiad yn yr un ffordd â phobl sy'n gwneud cais i gofrestru fel etholwr cyffredin.

Cadarnhau ceisiadau a datganiadau 

Os ydych wedi penderfynu bod hawl gan ymgeisydd i gael ei gofrestru, mae'n rhaid i chi gadarnhau iddo'n ysgrifenedig fod ei gais i gofrestru wedi bod yn llwyddiannus.1  

Dylech hefyd gynnwys, ynghyd â'r llythyr cadarnhau, wybodaeth am unrhyw drefniadau pleidleisio absennol sydd ar waith. Os nad oes unrhyw drefniadau ar waith, dylech nodi'r opsiynau pleidleisio absennol yn glir. 

Os ydych wedi gwrthod cais i gofrestru, mae'n rhaid i chi hysbysu'r ymgeisydd a nodi'r rhesymau dros wrthod.

Lle mae unigolyn sydd wedi'i gofrestru drwy ddatganiad o gysylltiad lleol wedi llwyddo i adnewyddu ei ddatganiad, nid oes angen anfon hysbysiad cadarnhau ato. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn penderfynu anfon rhagor o wybodaeth ato yn cadarnhau y bu ei gais i adnewyddu yn llwyddiannus, a gallech anfon y wybodaeth honno drwy e-bost. Gallai'r ohebiaeth hon hefyd gynnwys gwybodaeth yn nodi pryd y bydd ei ddatganiad yn dod i ben, sut a phryd y caiff ei atgoffa nesaf i'w adnewyddu, pa drefniadau pleidleisio absennol sydd ar waith ar ei gyfer ac, os nad oes unrhyw drefniadau o'r fath ar waith, gwybodaeth am opsiynau pleidleisio absennol. 
 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023