Adnewyddu datganiadau gwasanaeth gweision y Goron ac aelodau o staff y British Council

Adnewyddu datganiadau gwasanaeth gweision y Goron ac aelodau o staff y British Council 

Mae gan weision y Goron neu aelodau o staff y British Council yr hawl i barhau i gael eu cofrestru ar yr amod bod yr etholwr yn parhau i fodloni'r amodau eraill ar gyfer cofrestru yn ystod y cyfnod hwn tan ddiwedd y cyfnod 12 mis sy'n dechrau ar y dyddiad pan ddaw ei gofnod i rym gyntaf. 

Bydd angen i chi gadw cofnod yn dangos pryd mae angen anfon ffurflenni atgoffa. 

Mae'n rhaid i chi atgoffa pob pleidleisiwr gwasanaeth bod angen iddo wneud datganiad newydd er mwyn parhau wedi'i gofrestru fel pleidleisiwr gwasanaeth.1 Rhaid i'r ffurflen atgoffa gael ei hanfon rhwng 9 a 10 mis ar ôl y dyddiad pan ddaw'r cofnod gwasanaeth i rym gyntaf2 a dylai gynnwys datganiad i'r pleidleisiwr gwasanaeth ei gwblhau. 

Os na fyddwch wedi cael datganiad newydd, mae'n ofynnol i chi anfon ail ffurflen atgoffa rhwng 21 diwrnod a 28 diwrnod ar ôl anfon y ffurflen atgoffa gyntaf.3  

Ni ddylid anfon ffurflenni atgoffa os byddwch wedi cael gwybod nad oes gan yr unigolyn yr hawl i wneud y datganiad perthnasol mwyach neu nad yw'n dymuno cael ei gofrestru fel pleidleisiwr gwasanaeth mwyach.4
 
Lle na chaiff datganiad ei adnewyddu o fewn y cyfnod 12 mis ac y caiff yr unigolyn ei dynnu oddi ar y gofrestr, bydd hefyd yn colli unrhyw drefniant pleidleisio a oedd ar waith.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am hysbysu etholwyr y byddant yn colli eu hawl i drefniadau pleidleisio absennol yn ein canllawiau ar bleidleisio absennol.

Pleidleiswyr gwasanaeth sydd o dan 18 oed 

Mae'n rhaid i unigolyn o dan 18 oed sydd wedi'i gofrestru fel pleidleisiwr gwasanaeth am ei fod yn byw gyda rhiant neu warcheidwad sy'n un o weision y Goron neu'n aelod o staff y British Council sy'n gwasanaethu dramor adnewyddu ei gofrestriad bob blwyddyn.5
 
Dylech anfon ffurflen atgoffa yn hysbysu'r unigolyn bod angen iddo wneud datganiad newydd os yw'n dymuno parhau wedi'i gofrestru fel pleidleisiwr gwasanaeth, a dylech gynnwys datganiad iddo ei gwblhau. Dylid anfon y ffurflen atgoffa rhwng 9 a 10 mis ar ôl y dyddiad pan ddaw'r cofnod i rym gyntaf. Dylech anfon ail ffurflen atgoffa i'w hysbysu bod ei ddatganiad ar fin dod i ben, os na fydd wedi ymateb i'r ffurflen atgoffa gyntaf. Dylid anfon yr ail ffurflen atgoffa hon rhwng 21 diwrnod a 28 diwrnod ar ôl anfon y ffurflen atgoffa gyntaf. Bydd angen i chi gadw cofnod yn dangos pryd mae angen anfon ffurflenni atgoffa.

At hynny, bydd ei gofrestriad fel pleidleisiwr gwasanaeth yn dod i ben pan fydd yn 18 oed. Mae'n rhaid i chi anfon ffurflen atgoffa at yr etholwr yn nodi y bydd ei gofrestriad yn dod i ben pan fydd yn 18 oed, ac mae'n rhaid anfon y ffurflen atgoffa hon o fewn y cyfnod o dri mis sy'n dod i ben pan fydd yr unigolyn yn cyrraedd 18 oed. Bydd angen iddo wneud cais newydd i gofrestru, gan adlewyrchu ei amgylchiadau ar y pryd. 
 

 

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Tachwedd 2023