Am ba hyd y mae datganiadau o gysylltiad lleol yn ddilys?
Am ba hyd y mae datganiadau o gysylltiad lleol yn ddilys?
Mae datganiad o gysylltiad lleol yn ddilys am 12 mis o'r dyddiad pan ddaw'r cofnod ar y gofrestr i rym gyntaf.1
Gellir dileu cofrestriadau yn gynharach o dan yr amgylchiadau canlynol:2
penderfyniad i ganslo'r cofrestriad gan yr etholwr
rydych yn penderfynu nad oes gan yr unigolyn yr hawl i gael ei gofrestru
rydych yn penderfynu bod yr unigolyn wedi'i gofrestru, neu fod ei gofnod wedi'i newid, o ganlyniad i gais a wnaed gan unigolyn arall (h.y. nid yr unigolyn y darperir ei fanylion ar y cais ac sydd wedi datgan bod y wybodaeth a ddarparwyd yn wir)
os gwneir cofnod arall mewn perthynas â'r etholwr ar unrhyw gofrestr etholwyr
I gael canllawiau ar dynnu etholwr oddi ar y gofrestr, gweler ein canllawiau ar ddileu.
Mae'n rhaid gwrthod datganiad a geir mwy na thri mis ar ôl y dyddiad a nodir arno.3
Dylid hysbysu'r ymgeisydd a'i wahodd i gyflwyno datganiad newydd.