Sut y dylid prosesu cais a datganiad gan un o weision y Goron neu aelod o staff y British Council?

Sut y dylid prosesu cais a datganiad gan un o weision y Goron neu aelod o staff y British Council?

Cydnabod ceisiadau


Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i gydnabod cais, er bod croeso i chi anfon cydnabyddiaeth. Ym mhob achos, mae'n ofynnol i chi anfon cadarnhad os bydd y cais yn llwyddiannus, fel y nodir isod. 

Dilysu ceisiadau 

Dylid prosesu pob cais a datganiad a dilysu hunaniaeth yr ymgeisydd cyn gynted â phosibl ar ôl eu derbyn. 

Os byddwch yn derbyn cais lle nad yw'r cyfeiriad cymhwyso yn rhan o'ch ardal, dylid ei anfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol ar unwaith.

Mae'n rhaid i ddarpar weision y Goron, darpar aelodau o staff y British Council neu eu cymar neu bartner sifil na ellir cyfateb eu data â data DWP ddarparu tystiolaeth ddogfennol i ategu eu cais.
 
Mae'n rhaid i chi ysgrifennu at yr ymgeisydd yn ei hysbysu na fu'n bosibl dilysu ei hunaniaeth ac yn gofyn iddo ddarparu tystiolaeth ddogfennol. Mae'n rhaid iddo ddarparu copi o dudalen wybodaeth / ffotograff ei basbort neu ddwy ochr ei gerdyn adnabod AEE, wedi'i ardystio gan un o weision y Goron neu aelod o staff y British Council nad yw'n gymar nac yn bartner sifil i'r ymgeisydd. 

Lle y gwneir cais fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog gan unigolyn o dan 18 oed at ddiben cofrestru ar y gofrestr llywodraeth leol, ac na ellir dilysu hunaniaeth yr unigolyn hwnnw drwy ddefnyddio cofnodion addysg neu ddata lleol eraill, dylech ofyn iddo ddarparu copi o dudalen wybodaeth / ffotograff ei basbort neu ddwy ochr ei gerdyn adnabod AEE, wedi'i ardystio gan un o weision y Goron neu aelod o staff y British Council nad yw'n rhiant, yn warcheidwad, yn gymar nac yn bartner sifil i'r ymgeisydd. 

Efallai yr hoffech ystyried pennu terfyn amser i'r ymgeisydd ymateb; bydd hyn yn ddefnyddiol wrth benderfynu a ddylid gwrthod cais am na chafwyd ymateb. Y Swyddog Cofrestru Etholiadol fydd yn dewis faint o amser a roddir i ymgeiswyr ymateb; fodd bynnag, dylai roi amser rhesymol i'r ymgeisydd ddod o hyd i'w ardystiad a'i ddychwelyd, gan gofio y bydd rhai etholwyr o bosibl wedi'u lleoli dramor.
 

Gofynion y datganiad

Mae’n rhaid i’r datganiad gynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol er mwyn iddo gael ei ystyried wedi’i wneud yn briodol.

Os nad yw’r datganiad yn bodloni’r gofynion, byddwch yn dychwelyd y datganiad i’r ymgeisydd ac yn egluro pa wybodaeth sydd ar goll.1
 

Cadarnhau ceisiadau a datganiadau 

Os ydych wedi penderfynu bod hawl gan ymgeisydd i gael ei gofrestru, mae'n rhaid i chi gadarnhau iddo'n ysgrifenedig fod ei gais i gofrestru wedi bod yn llwyddiannus.2
 
Dylech hefyd gynnwys, ynghyd â'r llythyr cadarnhau, wybodaeth am unrhyw drefniadau pleidleisio absennol sydd ar waith. Os nad oes unrhyw drefniadau ar waith, dylech nodi'r opsiynau yn glir. 

Os ydych wedi gwrthod cais i gofrestru, mae'n rhaid i chi hysbysu'r ymgeisydd a nodi'r rhesymau dros wrthod.

Lle mae pleidleisiwr presennol yn y lluoedd arfog wedi llwyddo i adnewyddu ei ddatganiad, nid oes angen anfon hysbysiad cadarnhau. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn penderfynu anfon rhagor o wybodaeth ato yn cadarnhau y bu ei gais i adnewyddu yn llwyddiannus, a gallech anfon y wybodaeth honno drwy e-bost. Gallai'r ohebiaeth hon hefyd gynnwys gwybodaeth yn nodi pryd y bydd ei ddatganiad yn dod i ben, sut a phryd y caiff ei atgoffa nesaf i'w adnewyddu, pa drefniadau pleidleisio absennol sydd ar waith ar ei gyfer ac, os nad oes unrhyw drefniadau o'r fath ar waith, gwybodaeth am opsiynau pleidleisio absennol.

Dylech hefyd sicrhau bod yr etholwr yn ymwybodol o'r terfynau amser cyffredinol ar gyfer dosbarthu pleidleisiau post cyn etholiad a gallech gynghori'r etholwr i benodi dirprwy fel dewis amgen os nad yw'n realistig dosbarthu, cwblhau a dychwelyd ei becyn pleidleisio drwy'r post cyn i'r gorsafoedd pleidleisio gau. Wrth gwrs, dewis yr etholwr yw pa ddull o bleidleisio sydd orau ganddo, ond mae'n bwysig sicrhau y gall etholwyr wneud penderfyniad gwybodus. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar bleidleisio absennol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Tachwedd 2023