Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru

Sut i wneud cais i gofrestru fel pleidleisiwr sy’n Was y Goron neu’n gyflogai’r British Council

Gall unigolion wneud cais newydd i gofrestru fel Gwas y Goron neu gyflogai’r British Council:

  • ar-lein trwy wefan y llywodraeth ganolog - www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio (Yn agor mewn ffenestr newydd) 
  • drwy ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol yn ysgrifenedig (e.e. ar ffurflen gais bapur)
  • dros y ffôn (os ydych yn cynnig y gwasanaeth)
     

Ceisiadau ar-lein

Cynhelir y porth ar gyfer gwneud cais ar-lein ar GOV.UK (Yn agor mewn ffenestr newydd). Os oes gennych gyfeiriad e-bost ar gyfer darpar etholwr gallech, yn y lle cyntaf, ei ddefnyddio i’w annog i gyflwyno cais ar-lein neu i gyhoeddi cais drwy ddulliau electronig.

Gall pleidleiswyr presennol sy'n Weision y Goron neu’n gyflogeion y British Council dim ond adnewyddu eu cofrestriad drwy ddefnyddio ffurflen adnewyddu bapur y gellir ei hanfon drwy'r post neu drwy e-bost. Mae ein canllawiau ar y broses adnewyddu yn cynnwys rhagor o wybodaeth am hyn.

Ceisiadau papur

Rydym yn cynhyrchu ffurflenni cais pleidleiswyr sy'n Weision y Goron neu’n gyflogeion y British Council argraffadwy y gallwch eu defnyddio. Cânt eu cyhoeddi ar ein gwefan a GOV.UK (Yn agor mewn ffenestr newydd). Rydym hefyd yn darparu fersiynau o'r ffurflenni mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch megis print bras a hawdd ei ddarllen.

Ceisiadau dros y ffôn

Er budd a hwylustod etholwyr, dylech gynnig y gwasanaethau hyn lle bynnag y bo modd. Bydd hyn hefyd yn eich helpu i gyflawni eich dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan y bydd pobl a allai gael anawsterau wrth lenwi’r ffurflen bapur neu’r ffurflen ar-lein yn cael y cyfle i wneud cais heb fod angen darparu’r wybodaeth yn ysgrifenedig.

Os na allwch ddarparu cofrestriad ffôn i bawb, gallwch ganiatáu'r rhain yn ôl eich disgresiwn mewn rhai amgylchiadau, a dylech wneud hynny i gynorthwyo ymgeiswyr ag anableddau er mwyn bodloni rhwymedigaethau cydraddoldeb.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023