Am ba hyd y mae'r datganiadau gwasanaeth ar gyfer gweision y Goron ac aelodau o staff y British Council yn ddilys?

Am ba hyd y mae'r datganiadau gwasanaeth ar gyfer gweision y Goron ac aelodau o staff y British Council yn ddilys?

Mae datganiad gwasanaeth ar gyfer gweision y Goron, aelodau o staff y British Council, neu eu cymar neu bartner sifil yn ddilys am 12 mis.1 Gellir dileu cofrestriadau yn gynharach o dan yr amgylchiadau canlynol:2

  • penderfyniad i ganslo'r cofrestriad gan yr etholwr 
  • rydych yn penderfynu nad oes gan yr unigolyn yr hawl i gael ei gofrestru
  • rydych yn penderfynu bod yr unigolyn wedi'i gofrestru, neu fod ei gofnod wedi'i newid, o ganlyniad i gais a wnaed gan unigolyn arall (h.y. nid yr unigolyn y darperir ei fanylion ar y cais ac sydd wedi datgan bod y wybodaeth a ddarparwyd yn wir)
  • os gwneir cofnod arall mewn perthynas â'r etholwr ar unrhyw gofrestr etholwyr 

I gael canllawiau ar dynnu etholwr oddi ar y gofrestr, gweler ein canllawiau ar ddileu.

Mae'n rhaid gwrthod datganiad a geir mwy na thri mis ar ôl y dyddiad a nodir arno.3 Dylid hysbysu'r ymgeisydd a'i wahodd i gyflwyno datganiad newydd.

Gall pleidleisiwr gwasanaeth ganslo ei ddatganiad unrhyw bryd.4 Bydd canslo datganiad gwasanaeth yn canslo unrhyw drefniant pleidleisio absennol a wnaed mewn perthynas â'r datganiad hwnnw hyd yn oed os bydd yr etholwr yn cofrestru fel etholwr cyffredin yn yr un cyfeiriad cymhwyso.

Pleidleiswyr gwasanaeth sydd o dan 18 oed 

Mae'n rhaid i unigolyn o dan 18 oed sydd wedi'i gofrestru fel pleidleisiwr gwasanaeth am ei fod yn byw gyda rhiant neu warcheidwad sy'n un o weision y Goron neu'n aelod o staff y British Council sy'n gwasanaethu dramor adnewyddu ei gofrestriad bob blwyddyn.5
 
Bydd ei gofrestriad fel pleidleisiwr gwasanaeth yn dod i ben pan fydd yn 18 oed. Mae ein canllawiau ar adnewyddu datganiadau gwasanaeth yn ymdrin â'r broses adnewyddu ar gyfer unigolion o dan 18 oed. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021