Beth y mae'n rhaid ei gynnwys mewn cais gan un o weision y Goron neu aelod o staff y British Council?

Beth y mae'n rhaid ei gynnwys mewn cais gan un o weision y Goron neu aelod o staff y British Council? 

Mae'n rhaid i gais i gofrestru fel pleidleisiwr gwasanaeth gynnwys yr holl bethau canlynol:1  

  • enw llawn yr ymgeisydd
  • ei gyfeiriad gohebu
  • unrhyw gyfeiriad y rhoddodd yr ymgeisydd y gorau i fyw ynddo yn ystod y 12 mis cyn dyddiad y cais a, lle nad yw hynny yn y DU, gwybodaeth yn nodi a oedd yr unigolyn hwnnw wedi'i gofrestru fel etholwr dramor yn ystod y cyfnod hwn
  • gwybodaeth yn nodi a yw'r ymgeisydd yn byw mewn unrhyw gyfeiriad arall, gan gynnwys unrhyw gyfeiriad lle mae'r ymgeisydd wedi'i gofrestru ar hyn o bryd ac y mae'n honni bod ganddo'r hawl i fod wedi'i gofrestru yno o hyd
  • dyddiad geni'r ymgeisydd neu, os na all yr ymgeisydd roi ei ddyddiad geni, mae'n rhaid iddo roi'r rheswm pam na all wneud hynny a rhoi datganiad yn nodi a yw o dan 16 oed, yn 16 neu 17 oed neu'n 18 oed neu drosodd,2 neu'n 76 oed neu drosodd
  • rhif Yswiriant Gwladol yr ymgeisydd neu, os na all roi'r wybodaeth hon, y rheswm pam na all wneud hynny. Nid yw hyn yn gymwys pan fydd yr ymgeisydd o dan 16 oed. 
  • cenedligrwydd neu genedligrwyddau'r ymgeisydd neu, os na all roi'r wybodaeth hon, y rheswm pam na all wneud hynny 
  • gwybodaeth yn nodi a ddylid hepgor ei enw oddi ar y gofrestr olygedig. Caiff unigolyn o dan 16 oed ei eithrio'n awtomatig o'r gofrestr olygedig. Ni ddylid cynnwys manylion unrhyw unigolyn o dan 16 oed ar unrhyw fersiwn o'r gofrestr gyhoeddedig, gan gynnwys y gofrestr olygedig 
  • datganiad bod cynnwys y cais yn wir
  • dyddiad y cais
  • y datganiad priodol

Mae'n rhaid i'r ffurflen gais hefyd ddarparu gofod er mwyn nodi ei enw blaenorol diweddaraf3 (os yw'n berthnasol) ac esboniad nad yw darparu'r wybodaeth hon yn orfodol ond y gall helpu wrth ddilysu ei hunaniaeth ac os na chaiff ei darparu, ei bod yn bosibl y bydd angen gwybodaeth bersonol ychwanegol.

Mae'n rhaid i'w ddatganiad gwasanaeth nodi'r canlynol:4  

  • dyddiad y datganiad 
  • enw llawn a chyfeiriad yr ymgeisydd
  • ar y dyddiad hwnnw bod yr ymgeisydd yn byw yn y DU, neu oni bai am yr amgylchiadau sy'n caniatáu i'r unigolyn hwnnw wneud y datganiad y byddai wedi bod yn byw yn y DU. Mewn perthynas â chais gan unigolyn o dan 18 oed sy'n byw gyda rhiant neu warcheidwad sy'n un o weision y Goron neu'n aelod o staff y British Council sy'n gwasanaethu dramor, mae'n rhaid i'r cyfeiriad y byddai'r unigolyn wedi bod yn byw ynddo fod yn gyfeiriad yng Nghymru.
  • y cyfeiriad y mae'r ymgeisydd yn byw ynddo yn y DU neu y byddai wedi bod yn byw ynddo yn y DU neu, os na all roi cyfeiriad o'r fath, gyfeiriad y mae wedi byw ynddo yn y DU. Mewn perthynas â chais gan unigolyn o dan 18 oed sy'n byw gyda rhiant neu warcheidwad sy'n un o weision y Goron neu'n aelod o staff y British Council sy'n gwasanaethu dramor, mae'n rhaid i'r cyfeiriad y byddai'r unigolyn wedi bod yn byw ynddo fod yn gyfeiriad yng Nghymru.
  • ar ddyddiad y datganiad bod yr ymgeisydd yn ddinesydd tramor cymwys, yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd un o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd 
  • a oedd yr ymgeisydd wedi cael ei ben-blwydd yn 18 oed erbyn dyddiad y datganiad ac, os nad oedd, ei ddyddiad geni
  • ar sail beth yr honnir cymhwyster gwasanaeth
  • rhaid datgan gwybodaeth sy'n ymwneud â'i swydd (neu swydd yr unigolyn sy'n rhoi'r hawl iddo wneud y cais) fel y dangosir yn y tabl isod:
Gwas y Goron Cyflogai y British Council
  • enw adran y llywodraeth y mae'n gweithio iddi
  • ei swydd
  • ei swydd
  • ei rif staff, rhif cyflogres neu rif adnabod arall
  • ei rif staff, rhif cyflogres neu rif adnabod arall
  • dd/g

Nid oes angen i'r datganiad a wneir gan weision y Goron neu aelodau o staff y British Council gael ei anfon drwy eu cyflogwr, sy'n golygu y gall gweision y Goron ac aelodau o staff y British Council gwblhau'r broses gofrestru ar-lein.5
 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Mai 2023