Rheoli'r broses o ddilysu ceisiadau a ddaw i law yn agos at derfyn amser cofrestru etholiad

Rhaid i gais cyflawn i gofrestru (h.y. cais sy'n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen i gofrestru) gael ei wneud erbyn hanner nos, 12 diwrnod gwaith cyn yr etholiad1  er mwyn iddo fod yn ddilys ar gyfer etholiad. 

Hyd yn oed pan ddaw cais i gofrestru i law yn agos at y terfyn amser ar gyfer gwneud cais i gynnwys yr ymgeisydd ar y gofrestr ar gyfer etholiad, rhaid i chi anfon y wybodaeth berthnasol i'w dilysu drwy baru yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau o hyd, ac ystyried y canlyniad wrth benderfynu ar y cais. 

Gallwch ddisgwyl cael canlyniadau'r broses ddilysu drwy baru data gan Wasanaeth Digidol IER o fewn 24 awr. Fodd bynnag, os na ellir cadarnhau pwy yw ymgeisydd, dim ond hyn a hyn o amser a fydd gennych i gymryd y camau ychwanegol sydd eu hangen i wneud hynny cyn y terfyn amser ar gyfer penderfynu. 

Ymhlith y camau hyn mae paru data lleol a chynghori'r ymgeisydd i gyflwyno tystiolaeth ddogfennol o dan y broses eithriadau os oes angen.

Yn y cyfnod cyn etholiad, gallwch ddewis cymryd camau i leihau'r amser sydd ei angen cyn gallu penderfynu ar gais. 

Er enghraifft, gallech ddewis bwrw ymlaen â'r broses paru data lleol cyn i ganlyniadau proses baru'r Adran Gwaith a Phensiynau gael eu dychwelyd. Os gellir cadarnhau pwy yw ymgeisydd gan ddefnyddio data lleol, ac yna bod canlyniad paru negatif yn cael ei ddychwelyd gan Wasanaeth Digidol IER, gallwch wedyn ddefnyddio'r broses paru data lleol i benderfynu ar y cais heb unrhyw fewnbwn pellach gan yr etholwr.

Os na fydd y broses paru data lleol yn cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd a'ch bod yn dal heb gael canlyniadau'r broses ddilysu gan Wasanaeth Digidol IER, gallech gynghori'r ymgeisydd y gallai fod o fudd i'w gais iddo roi'r dystiolaeth angenrheidiol yn wirfoddol ar gyfer y broses eithriadau ddogfennol, bryd hynny, cyn i'r canlyniad dilysu ddod i law.

Os bydd yr ymgeisydd yn dewis rhoi'r dystiolaeth yn wirfoddol ar y cam hwn, a bod Gwasanaeth Digidol IER yn dychwelyd canlyniad paru negatif, gallwch ddefnyddio'r dystiolaeth ddogfennol i benderfynu ar y cais. 

Rhaid i chi fod wedi rhoi prosesau ar waith i gofnodi a storio unrhyw dystiolaeth ddogfennol a gewch yn ddiogel.  Dim ond os caiff ei defnyddio i benderfynu ar gais yn achos canlyniad paru negatif y cewch barhau i ddal y dystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd dan yr amgylchiadau hyn.2  Os bydd Gwasanaeth Digidol IER yn dychwelyd canlyniad paru positif, ni fydd angen y dystiolaeth ddogfennol a bydd rhaid ei dinistrio. Felly, bydd angen i chi hefyd fod wedi rhoi prosesau ar waith i ddinistrio dogfennau'n ddiogel lle bo angen.

 Os na chaiff canlyniadau'r broses o gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd eu dychwelyd gan Wasanaeth Digidol IER erbyn hanner nos ar y diwrnod cyn y terfyn amser ar gyfer gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r etholiad (erbyn haner nos, saith diwrnod gwaith cyn yr etholiad), yna dylech ddilyn y canllawiau wrth gefn

Bydd angen i chi ystyried y manteision a'r risgiau sy'n gysylltiedig â gofyn am dystiolaeth dan yr amgylchiadau hyn. Bydd angen i chi ystyried y cydbwysedd rhwng y posibilrwydd o ddrysu pleidleiswyr a gwneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau y gall pawb sydd wedi gwneud cais erbyn y terfyn amser ar gyfer cofrestru fod wedi'i gofrestru mewn da bryd i allu pleidleisio yn yr etholiad. Ni ddylech ofyn i ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth ddogfennol gyda chais i gofrestru ar unrhyw gyfrif – gall hyn annog darpar ymgeiswyr i beidio â gwneud cais, a gallai beri dryswch ynglŷn â'r broses gofrestru.

Os daw cais i law yn agos at y terfyn amser ar gyfer cofrestru gan berson ifanc 15 oed a fydd yn cael ei ben-blwydd yn 16 cyn dyddiad yr etholiad, fe'ch atgoffir na chaiff ei fanylion eu hanfon i'w dilysu yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau ac felly na fyddwch yn cael canlyniad dilysu gyda'r cais. Yn lle hynny, bydd angen i chi gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd gan ddefnyddio cofnodion addysg neu ddata lleol eraill sy'n cyrraedd y safonau gofynnol. 
 

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021