Defnyddio dulliau paru data lleol at ddibenion dilysu

Gall paru data lleol roi rhagor o wybodaeth i chi y gallwch ei defnyddio i benderfynu a ddylid caniatáu cais newydd. 

Rhaid i chi ddatgelu manylion cais i Wasanaeth Digidol IER ar ôl iddo ddod i law,1  ac ni ddylech gynnal proses paru data lleol at ddibenion cadarnhau pwy yw ymgeisydd nes eich bod wedi cael canlyniadau paru'r Adran Gwaith a Phensiynau a'u hystyried. 

Gallwch ddefnyddio proses paru data lleol i gadarnhau pwy yw ymgeiswyr na fu modd paru eu dynodyddion personol yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Gallwch hefyd ddefnyddio data lleol i gadarnhau pwy yw ymgeisydd os na fu modd i'r ymgeisydd roi rhif Yswiriant Gwladol, ar yr amod bod y rheswm a roddir dros beidio â rhoi rhif Yswiriant Gwladol yn ddilys. 

Mae paru yn erbyn data lleol yn eich galluogi i ddefnyddio ffynonellau data sydd ar gael i chi2  er mwyn cadarnhau mai'r sawl sy'n gwneud y cais yw'r person y mae'n honni bod. Os na fyddwch yn cynnal proses paru data lleol at ddibenion dilysu fel arfer, dim ond os byddwch yn fodlon y gall y ffynonellau data sydd ar gael i chi fodloni gofynion y dasg y dylid defnyddio'r opsiwn hwn.

Os yw ymgeisydd o dan 16 oed, nid yw'r gofyniad i roi ei rif Yswiriant Gwladol neu, os na all roi'r wybodaeth hon, y rheswm pam, yn berthnasol. 

Ni chaiff ceisiadau gan bobl ifanc 14 neu 15 oed eu hanfon i'w dilysu yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau. Os gallwch gadarnhau pwy yw ymgeisydd drwy ddefnyddio unrhyw gofnod addysgol, ni fydd angen i chi gynnal unrhyw wiriadau dilysu pellach.3  

Fel arall, gallwch ddefnyddio data lleol eraill sy'n cyrraedd y safonau a nodir yn gwerthuso ffynonellau data lleol at ddibenion dilysu i gadarnhau pwy yw ymgeiswyr 14 ac 15 oed. 

Os na allwch gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd gan ddefnyddio cofnodion addysg neu ddata lleol eraill, dylech ddilyn y broses eithriadau. Mae canllawiau ar y broses eithriadau i'w gweld yma. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021