Cynlluniau wrth gefn er mwyn i geisiadau ar-lein ddod i law

Os cewch unrhyw anawsterau wrth gael gafael ar geisiadau ar-lein neu eu gweld, dylech roi gwybod i gyflenwr eich System Rheoli Etholiad ac, os oes angen, i Ganolfan Gymorth IER

Dylech roi gwybod i Ganolfan Gymorth IER am unrhyw derfynau amser ar gyfer cofrestru sy'n agos. Bydd y Ganolfan yn asesu'r effaith bosibl ac yn gwneud pob ymdrech i roi dull amgen i chi o gael gafael ar ddata ceisiadau. Bydd natur y cymorth hwn yn dibynnu ar yr amgylchiadau a bydd y Ganolfan Gymorth yn rhoi cyngor llawn i chi ar roi'r ateb arfaethedig ar waith.

Dylech fod yn ymwybodol y gall yr amgylchiadau olygu na fydd modd dilysu ceisiadau ar-lein yn erbyn data'r Adran Gwaith a Phensiynau os na fydd y gwasanaeth ar gael, a dylech sicrhau y gall eich cynlluniau wrth gefn hefyd gael eu defnyddio i gael gafael ar geisiadau ar-lein gan Ganolfan Gymorth IER oherwydd, er enghraifft, efallai y bydd angen defnyddio'r broses eithriadau i gadarnhau pwy sy'n gwneud ceisiadau ar-lein.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021