Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Ceisiadau ar-lein
Mae'r ffurflen gofrestru ar-lein ar gael ar wefan y llywodraeth ganolog www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Dylech ddarparu dolen i'r ffurflen hon ar eich gwefan a'i chynnwys mewn unrhyw ohebiaeth neu weithgarwch sy'n codi ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Os oes gennych gyfeiriad e-bost yr unigolyn, gallech ei ddefnyddio i'w annog i gyflwyno ffurflen ar-lein. Gallwch hefyd roi gwahoddiad i gofrestru yn electronig, gan gynnwys drwy e-bost.
Caiff gwybodaeth o ffurflenni cofrestru a gwblheir ar-lein ei hanfon i'ch System Rheoli Etholiad yn awtomatig o'r Gwasanaeth Digidol IER.
Mae cofrestru ar-lein yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i integreiddio cofrestru â gwasanaethau eraill a ddarperir gan y cyngor ac i gynnal y broses cofrestru etholiadol yn fwy effeithlon.
Gall hyrwyddo sianeli ar-lein neu sianeli eraill ei gwneud hi'n haws i chi brosesu ceisiadau, a gallai fod yn rhatach hefyd o bosibl. Mae llawer o fanteision i bobl sy'n cwblhau cais ar-lein gan gynnwys:
- mwy o hygyrchedd i unigolion sydd ag anghenion cyfathrebu penodol y gall fod yn haws iddynt gwblhau'r cais ar-lein o bosibl, er enghraifft y rhai sydd â nam ar eu golwg sy'n defnyddio darllenwyr sgriniau electronig
- sicrwydd bod y cais a wnaed ganddynt yn gyflawn am na fydd y system ar-lein yn caniatáu i unrhyw geisiadau anghyflawn gael eu cyflwyno, er enghraifft unrhyw geisiadau â gwallau anfwriadol amlwg, fel dyddiad geni coll neu ddyddiad geni a roddir yn y fformat anghywir
- sicrwydd bod y cais yn cael ei dderbyn cyn gynted ag y caiff ei gyflwyno, sy'n fuddiol iawn os yw'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru cyn etholiad yn agosáu
Mae manteision i chi hefyd gan gynnwys:
- angen mewnbynnu llai o ddata â llaw
- llai o wallau oherwydd bod y wybodaeth a nodwyd ar y ffurflen gais wedi'i dilysu
- nid oes angen dehongli ysgrifen
- bydd y ceisiadau a geir yn gyflawn, sy'n golygu na fydd angen cymryd camau i ddod o hyd i wybodaeth goll
- caiff y wybodaeth ei dilysu'n syth yn hytrach na phan fyddwch yn nodi'r data ar eich System Rheoli Etholiad
- nid oes angen derbyn, agor, sganio na storio ffurflen bapur
Gall unigolion 14 a 15 oed wneud cais i gofrestru drwy Wasanaeth Digidol IER (ac eithrio'r rhai sy'n gwneud cais fel etholwyr categori arbennig) ond ni chaiff y ceisiadau hyn eu hanfon i'w dilysu yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yn hytrach, caiff manylion eu cais eu hanfon atoch chi i'w dilysu yn erbyn cofnodion addysg neu ddata lleol eraill. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cadarnhau pwy yw ymgeiswyr.
Mae eich gwefan a'ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich hun yn adnoddau allweddol ar gyfer rhannu negeseuon am gofrestru ac annog pobl i wneud cais. Dylech adolygu a diweddaru unrhyw gyngor neu wybodaeth gyffredinol a roddir am gofrestru etholiadol ar eich gwefan yn rheolaidd fel bod pobl yn cael gwybodaeth gywir a chyfredol am sut i gofrestru.