Pa wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn cais i gofrestru i bleidleisio?

Un o'r meini prawf o ran cymhwysedd unigolyn i gofrestru yw bod unrhyw ofynion statudol mewn perthynas â'r cais yn cael eu bodloni.
 
Mae'n rhaid i gais arferol i gofrestru (ac eithrio  etholwyr categori arbennig) gynnwys y wybodaeth ganlynol:1

  • enw llawn yr ymgeisydd
  • y cyfeiriad lle mae'r ymgeisydd yn byw ar ddyddiad y cais ac y gwneir y cais i gofrestru mewn perthynas ag ef
  • unrhyw gyfeiriad y rhoddodd yr ymgeisydd y gorau i fyw yno yn ystod y 12 mis cyn dyddiad y cais a, lle nad yw'r cyfeiriad hwnnw yn y DU, a oedd yr unigolyn hwnnw wedi'i gofrestru fel etholwr dramor yn ystod y cyfnod hwn
  • a oedd yr ymgeisydd yn byw mewn unrhyw gyfeiriad arall, gan gynnwys unrhyw gyfeiriad lle mae wedi'i gofrestru ar hyn o bryd ac y mae'n nodi bod hawl ganddo i gael ei gofrestru yno o hyd
  • dyddiad geni'r ymgeisydd neu, os na all ei ddarparu, y rheswm pam na all wneud hynny a datganiad ynghylch a yw'r ymgeisydd o dan 16 oed, yn 16 neu'n 17 oed neu'n 18 oed neu'n hŷn2   
  • rhif Yswiriant Gwladol yr ymgeisydd neu, os na all ei ddarparu, y rheswm pam na all wneud hynny – os yw ymgeisydd o dan 16 oed, nid yw'n ofynnol iddo ddarparu ei rif Yswiriant Gwladol
  • cenedligrwydd yr ymgeisydd neu, os na all ei ddarparu, y rheswm pam na all wneud hynny
  • a yw'r ymgeisydd yn dymuno i'w enw gael ei hepgor o'r gofrestr olygedig – caiff unigolyn o dan 16 oed ei optio allan o'r gofrestr olygedig yn awtomatig ac ni ddylai gael ei gynnwys mewn unrhyw fersiwn o'r gofrestr gyhoeddedig, gan gynnwys y gofrestr olygedig3  
  • datganiad sy'n nodi bod y wybodaeth yn y cais yn gywir (yn ymarferol, ar bapur, mae hyn yn cynnwys llofnod neu o leiaf farc ar y ffurflen sy'n dangos bod yr ymgeisydd wedi gwneud y datganiad)
  • dyddiad y cais

Os na ddarperir unrhyw rai o'r uchod, bydd y cais yn anghyflawn ac ni ellir ei brosesu. Dylech ofyn i'r ymgeisydd am y wybodaeth goll.
 
Mae'n rhaid i'r ffurflen gais gynnwys lle i'r ymgeisydd nodi ei enw blaenorol diweddaraf (os oes un ganddo)4  ac i esbonio nad yw'r wybodaeth hon yn orfodol ond y gall helpu i gadarnhau pwy ydyw ac, os na chaiff ei darparu, y gall fod angen rhagor o wybodaeth bersonol.
 
Mae'r wefan cofrestru i bleidleisio yn caniatáu i unrhyw un dros 14 oed gyflwyno cais (ac eithrio'r rhai sy'n gwneud cais fel etholwyr categori arbennig). Fodd bynnag, ni chaiff ceisiadau gan unigolion 14 a 15 oed eu hanfon i'w dilysu yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau.5 Yn lle hynny, caiff manylion eu cais eu hanfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol i'w dilysu yn erbyn cofnodion addysg neu ddata lleol eraill.
 
Efallai y byddwch yn derbyn ffurflen bapur gan y rhai nad ydynt yn ddigon hen i fod yn gyrhaeddwyr hefyd. Os byddwch yn derbyn cais o'r fath, dylech gysylltu â'r ymgeisydd ac esbonio na allwch brosesu ei gais ar hyn o bryd ond y byddwch yn cadw ei fanylion ar y ffeil ac yn ei wahodd i gofrestru unwaith y bydd yn gymwys. Cadwch gofnod o'i enw, ei gyfeiriad, unrhyw wybodaeth gyswllt arall a'r dyddiad y bydd yn dod yn gymwys i gael ei gofrestru yn seiliedig ar ei oedran a rhowch system ar waith i'ch atgoffa i anfon gwahoddiad i gofrestru ar yr adeg briodol.
 


 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021