Hysbysu Swyddog Cofrestru Etholiadol blaenorol am gais

Hysbysu Swyddog Cofrestru Etholiadol blaenorol am gais 

Mae'n rhaid i gais i gofrestru gynnwys unrhyw gyfeiriad y rhoddodd yr ymgeisydd y gorau i fyw yno yn ystod y 12 mis cyn dyddiad y cais a, lle nad yw'r cyfeiriad hwnnw yn y DU, dylid nodi a oedd yr unigolyn hwnnw wedi'i gofrestru fel etholwr o dramor yn ystod y cyfnod hwn.1  

Mae gennych ddyletswydd i hysbysu'r Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol lle rhoddwyd cyfeiriad blaenorol yn y DU.2 Caiff y broses hon ei hawtomeiddio drwy gyswllt rhwng eich System Rheoli Etholiad a'r Gwasanaeth Digidol IER a chaiff yr hysbysiad ei anfon unwaith y byddwch wedi caniatáu'r cais. 

Fodd bynnag, gall fod gan unigolyn yr hawl i gael ei gofrestru mewn mwy nag un cyfeiriad (e.e. myfyrwyr).  Os bydd etholwr yn nodi ar ei gais fod ganddo'r hawl i gael ei gofrestru mewn mwy nag un cyfeiriad, dylech gysylltu ag ef a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol er mwyn cadarnhau ei fanylion preswylio. 

Mae ein canllawiau gofynion o ran preswylio at ddibenion cofrestru yn rhoi rhagor o wybodaeth am hawl unigolyn i gael ei gofrestru mewn mwy nag un cyfeiriad. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021