Mae'n ofynnol i chi gynnal tair rhestr wahanol ar gyfer y canlynol:1
y ceisiadau a dderbynnir
unrhyw wrthwynebiadau a wneir cyn bod enw'r unigolyn yn cael ei ychwanegu at y gofrestr
unrhyw wrthwynebiadau a wneir ar ôl i enw'r unigolyn gael ei ychwanegu at y gofrestr
Cyn gynted ag y bydd unrhyw gais neu wrthwynebiad yn dod i law, mae'n rhaid cofnodi'r manylion priodol fel a ganlyn:
mae'n rhaid i fanylion y cais (enw a chenedligrwydd yr ymgeisydd, a'r cyfeiriad a roddir fel ei gyfeiriad cymhwyso) gael eu nodi yn y rhestr o geisiadau2
mae'n rhaid i fanylion y gwrthwynebiad (enw a chyfeiriad cymhwyso'r sawl sy'n gwrthwynebu, ynghyd â manylion y cais (fel uchod) neu'r cofnod ar y gofrestr) gael eu nodi yn y rhestr berthnasol o wrthwynebiadau3
lle y ceir gwrthwynebiad cyn bod enw unigolyn yn cael ei ychwanegu at y gofrestr, mae'n rhaid i fanylion y gwrthwynebiad gael eu nodi yn y rhestr o geisiadau4
Ni ddylid nodi ceisiadau a wneir gan unigolyn o dan 16 oed ar y rhestr o geisiadau sydd ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd.5
Ni ellir gwrthwynebu ceisiadau i gofrestru'n ddienw ac felly ni chânt eu cynnwys ar unrhyw un o'r rhestrau hyn.
Mae'r rhestrau o geisiadau a gwrthwynebiadau ar gael i'w harchwilio nes y penderfynir arnynt h.y. nes y byddwch wedi gwneud y penderfyniad terfynol o ran a oes angen addasu'r gofrestr neu ychwanegu ati.6
Llunnir y rhestrau hyn fel arfer gan becynnau meddalwedd neu, fel arall, gellid eu llunio'n ysgrifenedig neu eu teipio â llaw.