Am ba hyd ydych chi’n parhau i fod wedi’ch cofrestru?
Byddwch yn aros ar y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau am 15 mis o’r dyddiad y gwnaethoch gais i gofrestru.1
Os yw eich cofrestriad fod dod i ben yn ystod cyfnod a reoleiddir, bydd yn cael ei estyn yn awtomatig hyd nes ddiwedd y cyfnod a reoleiddir hwnnw.2
Os ydych chi am adnewyddu eich cofrestriad, mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen TP3 atom o leiaf fis cyn pen-blwydd 12 mis eich cofrestriad gwreiddiol a dim hwyrach na thri mis ar ôl y dyddiad hwnnw.3
Gallwch hefyd adnewyddu gan ddefnyddio CPE Ar-lein.
Os yw eich manylion cofrestru wedi newid, mae’n rhaid i chi ddiweddaru’r rhain wrth gyflwyno’ch adnewyddiad.4
Er y byddwn yn anelu at anfon nodyn atgoffa atoch cyn i’ch cofrestriad ddod i ben, eich cyfrifoldeb chi yw adnewyddu’ch cofrestriad o fewn y dyddiad cau os ydych chi am barhau i fod wedi’ch cofrestru.
Bydd eich cofrestriad yn dod i ben os nad ydych yn cyflwyno eich adnewyddiad i ni yn ystod yr adeg hon.5
Os bydd eich cofrestriad yn dod i ben ac yr hoffech gael eich ychwanegu at y gofrestr eto, bydd angen i chi gyflwyno cais newydd.