Beth sydd angen i chi ei wneud ar ôl i chi gofrestru?
Fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid, mae’n rhaid i chi gydymffurfio gyda deddfau gwariant a rhoddion a gofynion adrodd.
Fel trosolwg, mae’n rhaid i bob ymgyrchydd nad yw’n blaid wneud y canlynol:
gael system yn ei lle i awdurdodi gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir
gadw anfonebau a derbynebau ar gyfer taliadau dros £200 a wnaed fel rhan o’ch gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir
gwirio eich bod yn gallu derbyn unrhyw roddion dros £500 a’u cofnodi
ar ôl yr etholiad, rhoi gwybod i ni am roddion penodol rydych yn eu derbyn i’w gwario ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir
ar ôl yr etholiad, rhoi gwybod i ni am eich gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir
Ar ôl i chi gofrestru mae hawl gennych gael copi am ddim o’r gofrestr etholiadol llawn.1
Gallwch ei ddefnyddio at ddibenion etholiadol, megis ymgyrchu a gwirio a yw rhoddion gan unigolion wedi’u caniatáu ai peidio.
Ni ddylech ei drosglwyddo i unrhyw un arall, datgelu unrhyw wybodaeth ar y gofrestr nad yw’n ymddangos ar y gofrestr agored na defnyddio unrhyw wybodaeth ar y gofrestr at ddibenion nad ydynt yn etholiadol.2
Gwneud newidiadau
Os ydych chi am newid eich manylion gallwch ddiwygio’ch cofrestriad ar unrhyw adeg gan ddefnyddio Ffurflen TP2.3
1. Rheoliad 102(1) a 106(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 101(1) a 105(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, a Rheoliad 101(1) a 105(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Gogledd Iwerddon) 2008↩ Back to content at footnote 1
2. Rheoliad 106(4)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 105(4)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, a Rheoliad 105(4)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Gogledd Iwerddon) 2008↩ Back to content at footnote 2