Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru

| Argraffu'r canllawiau llawn

Sut ydych chi’n cofrestru?

Gallwch gofrestru ar-lein gan ddefnyddio CPE Ar-lein. Fel arall, gallwch lenwi Ffurflen TP1 ac anfon copi o’r ffurflen wedi’i lofnodi atom drwy e-bost neu’r post.

Pan fyddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn gwirio eich bod yn gymwys i gofrestru, bod yr holl wybodaeth angenrheidiol wedi’i darparu ac yn cadarnhau yn ysgrifenedig pryd y byddwch wedi cofrestru. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu rhagor o wybodaeth cyn y gallwn brosesu eich cofrestriad.

Dylech ganiatáu amser i’ch cais gael ei brosesu ac aros nes i ni gadarnhau eich bod wedi cofrestru cyn gwario dros £10,000. Bydd hyn yn sicrhau nad ydych chi’n mynd y tu hwnt i’r trothwy cofrestru cyn i chi gael eich cofrestru, sy’n drosedd.1

Pa wybodaeth sy’n rhaid i chi ei darparu?

Os ydych chi’n cofrestru fel unigolyn, rhaid i chi ddarparu eich enw a’ch cyfeiriad cartref.2

Os ydych chi’n cofrestru fel corff sydd wedi’i ymgorffori gan Siarter Frenhinol, sefydliad elusennol ymgorfforedig yn y DU neu bartneriaeth Albanaidd sy’n cynnal busnes yn y DU, mae’n rhaid i chi ddarparu:

  • enw’r sefydliad a chyfeiriad ei brif swyddfa3
  • enw’r ‘person cyfrifol’4
  • ‘manylion perthnasol’ y sefydliad5
  • awdurdodiad ysgrifennydd y sefydliad (neu unigolyn sy’n gweithredu mewn swydd debyg)6

Ar gyfer sefydliadau eraill sy’n gymwys i gofrestru, mae’n rhaid i chi ddarparu:

  • enw’r sefydliad a chyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa7
  • enw’r ‘person cyfrifol’8
  • manylion ‘cyfranogwyr perthnasol’ y sefydliad9
  • awdurdodiad ysgrifennydd y sefydliad (neuunigolyn sy’n gweithredu mewn swydd debyg)10

Bydd gan berson sy’n gweithredu mewn swyddogaeth debyg i ysgrifennydd sefydliad gyfrifoldeb cyffredinol am faterion gweinyddol y sefydliad.

Gweler y tudalennau nesaf am wybodaeth am y person cyfrifol, eu cyfrifoldebau, a’r manylion a’r cyfranogwyr perthnasol.

Bydd y manylion hyn, ac eithrio cyfeiriad cartref unigolyn, yn cael eu cynnwys ar eich cofnod ar y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.

Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth bersonol, megis cyfeiriadau cartref, cyfeiriadau e-bost neu rifau ffôn a ddarperir yn eich cofrestriad.

Fel rhan o’ch cofrestriad, gofynnir i chi hefyd ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth eich bod yn bodloni’r gofynion i gael eich ychwanegu at y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau o dan eich categori dewisol. Er enghraifft, os ydych chi’n cofrestru fel cwmni, gofynnir i chi ddarparu rhif cofrestru eich cwmni a thystiolaeth eich bod chi’n cynnal busnes yn y DU.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Chwefror 2026