Pryd y mae’n rhaid i chi gofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol?
Os ydych chi’n gymwys i gofrestru, gallwch gofrestru unrhyw bryd cyn neu yn ystod y cyfnod a reoleiddir mewn etholiad y Senedd.
Rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru cyn i chi wario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Rydym yn galw’r terfyn hwn yn ‘drothwy cofrestru’. Mae gwario mwy na’r swm hwn heb fod ar y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn drosedd.1
Mae’r Comisiwn yn cynnal y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ystod y cyfnod cyn etholiadau. Unwaith y bydd ymgyrchydd nad yw’n blaid wedi’i gofrestru, byddwn yn cyhoeddi ei fanylion ar ein cofrestr gyhoeddus.2
Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth bersonol, megis cyfeiriadau cartref, cyfeiriadau e-bost neu rifau ffôn.