Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru

| Argraffu'r canllawiau llawn

Beth sydd angen i chi ei wneud pan fyddwch chi’n derbyn rhodd?

Gallwch dim ond derbyn rhoddion gan rhai ffynonellau, sydd gan amlaf o fewn y DU.1   Gweler Gan bwy allwch chi dderbyn rhoddion? am fanylion ynghylch pa ffynonellau a ganiateir.

Cyn i chi dderbyn unrhyw rodd o fwy na £500, mae’n rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i: 

  • gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw gwir hunaniaeth y rhoddwr
  • gwiriwch fod y rhodd o ffynhonnell a ganiateir2

Pan fyddwch chi’n derbyn rhodd ar ran rhywun arall, rydym yn galw’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n rhoi’r rhodd i’r ymgyrchydd yn asiant. Rhaid i’r asiant roi’r manylion angenrheidiol i chi am y rhoddwr gwirioneddol er mwyn i chi allu gwirio a yw’n ganiataol ac adrodd ar y manylion.3

Os nad yw hi’n gwbl glir pwy ddylech drin fel rhoddwr, dylech wirio’r ffeithiau i wneud yn siŵr.

Pa mor hir sydd gennych chi i wirio caniatâd?

Ar ôl i chi gael rhodd, mae gennych 30 diwrnod i wirio bod y rhoddwr yn un a ganiateir a dychwelyd y rhodd os nad yw’n un a ganiateir.

Hyd yn oed os ydych wedi gwneud gwiriad caniatâd mewn cysylltiad â rhodd flaenorol gan yr un ffynhonnell, dylech hefyd wneud gwiriad newydd ar gyfer pob rhodd ddilynol. Mae hyn oherwydd y gall statws rhoddwyr newid, yn enwedig os oedd rhodd flaenorol cryn dipyn o amser yn ôl.

Dylech gadw cofnod o’ch holl wiriadau caniatâd i ddangos eich bod wedi dilyn y gyfraith.
Os nad yw’r rhodd gan roddwr a ganiateir, neu os na allwch fod yn siŵr pwy yw’r ffynhonnell mewn gwirionedd am unrhyw reswm, darllenwch Beth i’w wneud os byddwch yn derbyn rhodd o ffynhonnell nas caniateir neu roddwyr anhysbys? i gael canllawiau pellach ar y camau gweithredu y mae’n rhaid i chi eu cymryd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025