Pan roddir cefnogaeth i ymgyrchydd nad yw’n blaid i’w helpu i dalu costau penodol, diffinnir hyn fel nawdd. O dan y gyfraith, mae rheolau gwahanol yn berthnasol i’r rhoddion hyn.
Nawdd yw cefnogaeth a roddir i ymgyrchydd nad yw’n blaid sy’n eu helpu i dalu costau:
unrhyw gynhadledd, cyfarfod neu ddigwyddiad arall (gan gynnwys cynadleddau neu ddigwyddiadau digidol)
paratoi, cynhyrchu, neu ddosbarthu cyhoeddiad (print neu ddigidol), neu
ffioedd mynediad ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd neu ddigwyddiadau eraill
pris prynu unrhyw gyhoeddiad
taliadau cyfradd fasnachol ar gyfer hysbysebion mewn cyhoeddiadau
Mae’r eithriad ond yn gymwys at werth masnachol hysbysebion sy’n ymddangos mewn cyhoeddiadau. Enghraifft o’r eithriad hwn yw cyhoeddiad sy’n nodi amcanion ymgyrchydd nad yw’n blaid, fel maniffesto cyn etholiad.
Dylai taliadau ar gyfer unrhyw fath arall o hysbysebu, megis baneri mewn digwyddiad neu hysbysebu digidol mewn digwyddiad rhithwir. gael eu trin fel nawdd os ydynt yn helpu i fodloni cost y digwyddiad.
Nid yw taliadau hysbysebu nad ydynt yn bodloni cost digwyddiad neu gyhoeddiad mewn unrhyw ffordd yn cael eu hystyried yn nawdd. Er enghraifft, os ydych yn gwerthu gofod hysbysebu ar gyfer eich digwyddiad ar-lein heb fynd i unrhyw gostau uniongyrchol ar gyfer y digwyddiad.
Fodd bynnag, os yw rhywun yn talu mwy na gwerth masnachol hysbyseb, bydd y gwahaniaeth rhwng yr hyn a delir ganddynt a’r gwerth masnachol yn rhodd. Ni fydd unrhyw symiau a delir ar gyfer hysbysebion mewn cyhoeddiadau sydd dros y gyfradd fasnachol yn cael eu heithrio a chânt eu hystyried yn rhodd os ydynt yn werth mwy na £500.3
Lle nad yw taliad yn gyfystyr â nawdd, gallai fod yn rhodd o hyd os yw’n bodloni’r diffiniad o rodd.