Nid yw’r gyfraith yn cwmpasu arian a gewch tuag at wariant nad yw wedi’i reoleiddio o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.1
Er enghraifft:
rhoddion a roddir tuag at weithgareddau a gynhaliwyd cyn y cyfnod a reoleiddir, megis taflenni rydych chi’n eu cynhyrchu a’u defnyddio cyn i’r cyfnod a reoleiddir ddechrau
rhoddion tuag at weithgareddau ymgyrchu nas reoleiddir
Nid yw arian a roddir i chi neu’ch sefydliad at ddibenion cyffredinol, yn hytrach nag yn benodol i ariannu gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, wedi’i gwmpasu gan gyfraith etholiadol.
Er enghraifft, os ydych chi’n cynnal digwyddiad codi arian i godi arian i gefnogi gweithgarwch cyffredinol eich sefydliad neu os oes gennych chi roddwyr rheolaidd sy’n rhoi arian ar y sail hon, ni fydd y cyfraniadau hyn yn dod o dan y deddfau ar roddion i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau.
Rhoddion o £500 neu lai
Mae rhoddion o £500 neu lai y tu allan i gwmpas Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ac nid oes angen i chi eu cofnodi nac adrodd arnynt.2
Fodd bynnag, rhaid i chi fod yn effro i sefyllfaoedd lle mae’n ymddangos bod rhoddwr yn ceisio osgoi’r gofynion caniatâd o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Mae’n drosedd ceisio osgoi’r cyfyngiadau ar dderbyn rhoddion.3
Er enghraifft, os gwneir nifer o roddion o £400 o’r un ffynhonnell mewn amgylchiadau tebyg mewn ymgais i osgoi’r gofynion caniatâd.
Os ydych o’r farn y gallai hyn fod yn digwydd, dylech gysylltu â ni am gyngor.
1. Atodlen 11, paragraff 1(4) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA)↩ Back to content at footnote 1