Ni fydd mynd ar wyliau yn effeithio ar amod cymhwyso preswyl at ddibenion cofrestru etholiadol, ar yr amod mai ei gyfeiriad cymhwyso yw ei fan preswyl parhaol o hyd a'i fod yn bwriadu dychwelyd i'r cyfeiriad hwnnw ar ôl ei amser i ffwrdd.
Gweithio oddi cartref
Os bydd unigolyn i ffwrdd oherwydd unrhyw rôl, gwasanaeth neu swydd, ni fydd hyn yn effeithio ar ei amod cymhwyso preswyl, ar yr amod naill ai:2
ei fod yn bwriadu dychwelyd i breswylio yno mewn gwirionedd o fewn chwe mis i beidio â phreswylio yno, ac na fydd y rheswm dros fod yn absennol yn ei atal rhag gwneud hynny, neu
mai man preswyl parhaol i'r ymgeisydd ar ei ben ei hun neu gyda phobl eraill yw'r eiddo, a'r rheswm pam nad yw'r ymgeisydd yn preswylio yn yr eiddo ar hyn o bryd yw oherwydd y ddyletswydd y mae'n ymgymryd â hi.
Preswylwyr mewn llety dros dro
Gellir ystyried unigolyn sy'n byw mewn llety dros dro, ac nad oes ganddo gartref yn rhywle arall, yn breswylydd yn y cyfeiriad hwnnw, yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Fodd bynnag, os oes cartref parhaol gan yr unigolyn yn rhywle arall, mae'n bosibl na thybir ei fod yn preswylio yn y cyfeiriad dros dro.3
Ymwelwyr
Nid ystyrir ymwelydd sy'n aros mewn eiddo yn breswylydd os bydd cartref parhaol ganddo yn rhywle arall. Tybir bod yr ymwelydd yn preswylio yn ei gartref parhaol. Fodd bynnag, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gellir ystyried bod ymwelydd nad oes ganddo gartref parhaol yn rhywle arall, yn preswylio yn y cyfeiriad hwnnw at ddibenion etholiadol.