A gaiff etholwyr gofrestru i bleidleisio mewn mwy nag un cyfeiriad?
A gaiff etholwyr gofrestru i bleidleisio mewn mwy nag un cyfeiriad?
Mae'n bosibl y bydd hawl gan rai etholwyr i gofrestru mewn mwy nag un cyfeiriad. Wrth ystyried cais i gofrestru unigolyn mewn ail gyfeiriad, dylech ystyried at ba ddiben y mae'r etholwyr yn bresennol yn y cyfeiriad hwnnw, er mwyn penderfynu a ellir tybio ei fod yn preswylio yno. Dylech ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau ei hun.
Wrth wneud penderfyniad, mae angen i chi ystyried y canlynol:
gall unigolyn fod yn berchen ar fwy nag un cartref, ond nid yw bod yn berchen ar eiddo yn ddigon i gadarnhau bod rhywun yn preswylio mewn cyfeiriad - mae'n annhebygol y byddai bod yn berchen ar ail eiddo yr ymwelir ag ef at ddibenion hamdden yn unig yn bodloni'r amod cymhwyso preswyl.
nid yw bod yn berchen ar eiddo a thalu'r dreth gyngor arno yn ddigon i fodloni'r amod cymhwyso preswyl. Gall hyn gyfleu awgrym o gysylltiad â chyfeiriad, ond nid yw'n dystiolaeth o breswylio yno
bydd y ffordd y caiff yr ail gartref ei ddefnyddio yn effeithio ar b'un a ellir ystyried unigolyn yn breswylydd mewn cyfeiriad neu beidio, h.y. ai dyma ble y caiff 'prif fusnes bywyd' ei gynnal?
Ym mhob achos, byddai angen i'r unigolyn ddangos i ba raddau y mae'n byw'n barhaol yn y ddau gyfeiriad. Rhaid gwneud pob penderfyniad fesul achos.
Myfyrwyr
Mae myfyrwyr yn aml yn byw mewn dau gyfeiriad gwahanol, un yn ystod y tymor ac un arall yn ystod y gwyliau. Mae hawl gan fyfyrwyr i gofrestru yn y ddau gyfeiriad, os byddwch yn ystyried bod ganddynt gartref parhaol yn y ddau leoliad. 1