A gaiff unigolyn gofrestru i bleidleisio os nad oes cyfeiriad sefydlog ganddo?

A gaiff unigolyn gofrestru i bleidleisio os nad oes cyfeiriad sefydlog ganddo? 

Gall unigolyn nad oes cyfeiriad sefydlog neu barhaol ganddo gofrestru yn y lleoliad lle mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser, neu'r lleoliad y mae ganddo gysylltiad lleol ag ef. Mewn rhai achosion, bydd angen iddo gofrestru drwy wneud datganiad o gysylltiad lleol. 
Mae rhagor o wybodaeth am wneud datganiadau o gysylltiad lleol a'u prosesu ar gael yn ein canllawiau ar etholwyr categori arbennig. 

Sut y gall masnachlongwyr gofrestru? 

Mae hawl gan fasnachlongwyr nad ydynt yn preswylio yn y DU, ond y byddent yn preswylio yma oni bai am eu swydd, gael eu trin fel preswylwyr, un ai mewn cyfeiriad y byddent fel arfer yn preswylio ynddo, neu mewn hostel neu glwb sy'n darparu llety i fasnachlongwyr ac y byddent yn aros ynddo yn aml yn ystod eu galwedigaeth. 1

Sut y gall cymunedau sipsiwn a theithwyr gofrestru? 

Mae'n bosibl na fydd cyfeiriad parhaol gan rai aelodau o gymunedau sipsiwn neu deithwyr, er efallai y byddant yn ymgartrefu ar safleoedd a bennir gan yr awdurdod lleol am gyfnod o amser. Os byddant yn bresennol ar y safleoedd hynny am gyfnod sylweddol o amser, gellir eu hystyried yn breswylwyr yno, a chânt gofrestru fel etholwyr cyffredin. 

Mae'n bosibl y bydd yr awdurdod lleol, sy'n gyfrifol am gynnal a chadw unrhyw safleoedd a sicrhau bod y plant yn cael addysg briodol, yn gallu eich helpu i asesu'r sefyllfa yn yr ardal leol, a hwyluso'r gwaith o gofrestru unrhyw sipsiwn neu deithwyr sydd â'r hawl i gofrestru. 

Os nad oes cyfeiriad lle y gellir ystyried bod cymuned benodol o sipsiwn a theithwyr yn preswylio ynddo, ni chaiff aelodau o'r gymuned honno gofrestru fel etholwyr cyffredin. Yn lle hynny, gallant gofrestru drwy wneud datganiad o gysylltiad lleol yn y lleoliad lle maent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser, neu lle mae ganddynt gysylltiad lleol ag ef. 2

Dylech ystyried presenoldeb unrhyw gymunedau sipsiwn neu deithwyr yn eich ardal a phenderfynu ar y dull gweithredu gorau i'w ddefnyddio yn lleol.

Sut y gall pobl sy'n byw mewn cychod cul a chartrefi symudadwy eraill gofrestru? 

Gellir trin unrhyw unigolyn sy'n byw yn barhaol ar gwch neu gwch preswyl, neu mewn cartref tebyg sydd ag angorfa barhaol ym Mhrydain Fawr, fel rhywun sy'n preswylio yn y cyfeiriad hwnnw, a dylid ei gofrestru fel etholwr cyffredin. 

Os bydd unigolyn yn byw ar gwch neu mewn cartref tebyg arall nad oes ganddo angorfa barhaol, ni ellir ei drin fel rhywun sy'n preswylio mewn unrhyw gyfeiriad penodol. Bydd hawl ganddo i gofrestru drwy wneud datganiad o gysylltiad lleol mewn lleoliad lle mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser (boed hynny yn ystod y dydd neu'r nos). 3  Gall hyn fod, er enghraifft, yn iard gychod a ddefnyddir ar gyfer gwaith cynnal a chadw. 

Sut y gall pobl ddigartref gofrestru? 

Ni fydd cyfeiriad cartref parhaol gan berson digartref felly ni fydd yn gallu cofrestru fel etholwr cyffredin. Gall wneud cais i gofrestru drwy gysylltiad lleol mewn cyfeiriad lle mae'n treulio rhan sylweddol o'i amser, boed hynny yn ystod y dydd neu'r nos. 4 Gall hyn fod, er enghraifft, yn arhosfan bysiau, yn fainc parc neu ddrws un o siopau'r stryd fawr. 

Sut y bydd plant sy'n derbyn gofal a phlant mewn llety diogel yn cofrestru? 

Mae hawl gan bobl ifanc dan 18 oed sy'n derbyn gofal, neu sydd wedi derbyn gofal, neu sy'n cael eu cadw mewn llety diogel ar hyn o bryd, i gofrestru drwy wneud datganiad o gysylltiad lleol.5  
"Plant sy'n derbyn gofal" yw plant (a all fod hyd at 18 oed) sydd: 

  • yn derbyn gofal, neu sydd wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu 
  • sy'n cael eu cadw mewn unrhyw lety diogel a nodir mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidog Cymru, o dan amgylchiadau a nodir yn y rheoliadau
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021