Mae'n bwysig eich bod yn cymryd camau i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu cynnwys ar y cofrestrau etholiadol. Mae'r cyfnod cyn yr etholiadau arfaethedig nesaf yn cynnig cyfle i wneud y canlynol:
annog y bobl hynny nad ydynt wedi'u cynnwys ar y gofrestr i wneud cais
sicrhau nad oes unrhyw gofnodion anghywir ar eich cofrestr
Mae nifer o fanteision amlwg ynghlwm wrth anfon llythyr at bob cartref yn rhestru pwy sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn y cyfeiriad penodol hwnnw, y gall pob un ohonynt eich helpu i sicrhau bod eich cofrestrau mor gywir a chyflawn â phosibl cyn yr etholiadau arfaethedig nesaf:
bydd yn ffordd ddefnyddiol o annog y rhai nad ydynt wedi cofrestru eto i wneud hynny
bydd yn helpu i ganfod y rhai sydd wedi symud i'r ardal gofrestru, neu o fewn yr ardal honno, yn ddiweddar
bydd yn rhoi cyfle i breswylwyr gadarnhau bod eu manylion ar y gofrestr yn gywir
Dylai eich llythyr hysbysu cartrefi ofyn i'r sawl sy'n byw yn y cyfeiriad gofrestru i bleidleisio os nad yw ei enw wedi'i gynnwys ar y llythyr, gan bwysleisio bod modd iddo gofrestru ar-lein, ac y dylai roi gwybod i chi os yw unrhyw wybodaeth ar y llythyr yn anghywir
Efallai y gallwch sicrhau bod eich llythyr hysbysu cartrefi yn cael yr effaith fwyaf posibl drwy wneud y canlynol:
ei gysylltu ag unrhyw ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol y gall y Comisiwn ei chynnal cyn yr etholiadau arfaethedig
ymgymryd â gwaith ymwybyddiaeth lleol er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r llythyr
cydweithio â swyddogion llety prifysgol a rheolwyr/landlordiaid tai amlfeddiannaeth er mwyn nodi'r ffordd orau o gynnal y gweithgaredd mewn neuaddau myfyrwyr a thai amlfeddiannaeth
gweithio gydag unrhyw bartneriaid eraill a nodir yn eich strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd er mwyn helpu i hyrwyddo'r llythyrau
Er mwyn cyfyngu ar y risg y gall fod dryswch ac y caiff gormod o ohebiaeth ei hanfon at etholwyr, bydd angen i chi ystyried sut y bydd y gweithgarwch yn cyd-fynd â gohebiaeth arall a anfonir at etholwyr (e.e. y ffurflen adnewyddu llofnod pleidlais absennol), yn ogystal â'r ffordd y bydd yn rhyngweithio ag unrhyw is-etholiadau hysbys.
Bydd angen i chi hefyd gysylltu â'ch argraffwyr er mwyn nodi'r amserlenni ar gyfer cymeradwyo proflenni, anfon data ac argraffu a choladu'r llythyrau a'r amlenni.