Pa weithgarwch cofrestru etholiadol ddylai fynd rhagddo drwy'r flwyddyn yn dilyn y canfasiad blynyddol?
Pa weithgarwch cofrestru etholiadol ddylai fynd rhagddo drwy'r flwyddyn yn dilyn y canfasiad blynyddol?
Cynnal cywirdeb a chyflawnrwydd y gofrestr drwy'r flwyddyn
Mae ffocws ar gofrestru drwy'r flwyddyn yn allweddol er mwyn sicrhau bod gennych hyder yng nghyflawnrwydd a chywirdeb y gofrestr, a'ch bod yn parhau i'w chynnal.
Dylech fynd ati i adolygu'r strategaeth a'r cynlluniau cofrestru sydd ar waith gennych ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd yn dilyn y canfasiad blynyddol er mwyn adlewyrchu unrhyw gynlluniau ar gyfer y flwyddyn ganlynol, fel llythyrau hysbysu cartrefi, cael diweddariadau data rheolaidd ar gyfer cyrhaeddwyr a chartrefi gofal ac unrhyw gynlluniau i gysylltu gweithgareddau lleol â digwyddiadau cenedlaethol fel yr Wythnos Ddemocratiaeth Genedlaethol.
Bydd angen i chi benderfynu pa gamau, os o gwbl, y byddwch yn eu cymryd mewn perthynas ag eiddo nad yw wedi ymateb i ohebiaeth ganfansio yr oedd angen ymateb iddo ar ôl i holl gamau dilynol a chamau atgoffa'r canfasiad gael eu cymryd.
Gallwch ystyried diffyg ymateb i ohebiaeth ganfasio yr oedd angen ymateb iddo fel un darn o dystiolaeth at ddiben adolygu hawl etholwr i barhau i fod wedi'i gofrestru.
Dylech ystyried a fyddwch yn cynnal unrhyw wiriadau eraill o ddata lleol i ddod o hyd i ail ddarn o dystiolaeth nad yw etholwr yn breswylydd mwyach, er mwyn eich galluogi i dynnu ei enw oddi ar y gofrestr, neu a fyddwch yn cynnal unrhyw adolygiadau o hawl etholwr i barhau i fod wedi'i gofrestru.
Dylech hefyd ystyried defnyddio eich pwerau i weld cofnodion lleol eraill a gwneud cais am wybodaeth a fyddai'n nodi darpar etholwyr newydd yn yr eiddo hwn nad yw'n ymateb.
Ymholiadau nad ymdriniwyd â nhw, tystiolaeth ddogfennol a phrosesau ardystio