Cynnal y gronfa ddata eiddo drwy gydol y flwyddyn

Cynnal y gronfa ddata eiddo drwy gydol y flwyddyn

Dylech gynnal cronfa ddata gynhwysfawr o eiddo er mwyn cyflawni eich dyletswyddau cofrestru mewn ffordd effeithiol, a chymryd camau i'w chynnal drwy gydol y flwyddyn. 

Dylech archwilio cofnodion eraill awdurdodau lleol er mwyn helpu i nodi: 

  • eiddo preswyl newydd
  • eiddo y gwneir defnydd newydd ohono
  • eiddo gwag
  • eiddo nad yw'n bodoli mwyach
  • eiddo nad yw wedi cael ei adeiladu eto

Gallwch hefyd ddefnyddio staff canfasio a staff dosbarthu cardiau pleidleisio, lle y caiff cardiau pleidleisio eu dosbarthu â llaw, i chwilio am eiddo nad ydynt ar y gronfa ddata gyfredol, a chywiro unrhyw wallau a nodir. Lle y byddwch yn defnyddio staff at y diben hwn, sicrhewch eu bod yn cael cyfarwyddiadau clir ynghylch sut y dylent roi gwybod am y materion a nodir ganddynt a'u cofnodi. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021