Gohebu ag unigolion a chartrefi y tu allan i'r canfasiad

Gohebu ag unigolion a chartrefi y tu allan i'r canfasiad

Fel rhan o'ch gweithgarwch drwy gydol y flwyddyn i gynnal cofrestr gywir a chyflawn, efallai yr hoffech gysylltu â chartrefi penodol y tu allan i'r cyfnod canfasio i ofyn a fu newidiadau mewn meddiannaeth, ac i ganfod enwau unrhyw ddarpar etholwyr newydd.
 
Byddwch hefyd yn dod i wybod am newidiadau posibl o ran y bobl sy'n byw mewn cyfeiriadau drwy eich gweithgarwch drwy gydol y flwyddyn i nodi darpar etholwyr newydd ac etholwyr y dylid tynnu eu henwau oddi ar y gofrestr. Efallai y byddwch yn darganfod newidiadau posibl mewn meddiannaeth drwy: 

  • archwilio cofnodion lleol eraill, fel cofnodion Treth Gyngor, Tai a Chofrestrwyr
  • cael eich hysbysu am newid mewn meddiannaeth gan etholwyr, er enghraifft pan fyddant wedi symud ac wedi cofrestru yn rhywle arall
  • cael eich hysbysu am newid mewn meddiannaeth gan drydydd parti
  • cael eich hysbysu am eiddo newydd ac archwilio cofnodion adrannau awdurdod lleol eraill 
  • bod yn ymwybodol o eiddo lle mae llawer o newidiadau yn dueddol o gael eu gweld drwy gydol y flwyddyn, fel tai amlfeddiannaeth – gweler ein canllawiau ar gadw mewn cysylltiad â phersonau cyfrifol 

Lle rhoddwyd enw a chyfeiriad darpar etholwyr i chi, rhaid i chi eu gwahodd i gofrestru. Gallwch hefyd eu hannog i gofrestru cyn anfon gwahoddiad ffurfiol atynt i gofrestru. 
 
Lle nad oes gennych ddigon o wybodaeth i wahodd unigolion i gofrestru (fel enwau preswylwyr newydd) ond rydych yn ymwybodol o newidiadau posibl mewn meddiannaeth, gallech ddefnyddio gohebiaeth ddewisol i ganfod enwau darpar etholwyr newydd cyn eu gwahodd neu eu hannog i gofrestru. Gallai ymateb i ohebiaeth ddewisol fod yn ail ffynhonnell o wybodaeth ar gyfer dileu enwau etholwyr hefyd.  

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021