Gweithio gyda phartneriaid presennol

Gweithio gyda phartneriaid presennol

Yn ogystal â nodi darpar bartneriaid newydd, mae'n bwysig adeiladu ar unrhyw drefniadau partneriaeth a sefydlwyd gennych eisoes. Gallai hyn gynnwys y rhai: 

  • sydd wedi cefnogi gwaith cofrestru yn flaenorol
  • sy'n cysylltu cryn dipyn â'ch cynulleidfaoedd targed neu'n cysylltu â nhw'n rheolaidd 
  • sydd â chydberthnasau da â chynulleidfaoedd targed ac sydd wedi gweithio gyda'r awdurdod lleol yn flaenorol, ond ddim ar waith cofrestru
  • sydd â chydberthnasau da â chynulleidfaoedd targed ond nid ydynt erioed wedi gweithio gyda'r awdurdod lleol
  • sydd â phroffil uchel yn yr ardal leol ymhlith cynulleidfaoedd eang

Lle byddwch yn nodi eich bod yn dymuno parhau i weithio gyda phartner presennol, dylech adolygu'r bartneriaeth a nodi a oes unrhyw beth y gallech ei wneud yn wahanol gyda'r partner er mwyn cyflawni canlyniadau gwell. Os yw'r gweithgarwch partneriaeth hwn wedi arwain at lefelau cofrestru uwch ymhlith eich grŵp targed, dylech sôn wrth eich partneriaid am y llwyddiant hwnnw. Gallai hyn eu hannog i wneud rhagor o waith gyda chi. 

Dyma rai enghreifftiau o bartneriaid y gallech fod eisiau eu hystyried: 

  • Darparwyr gwasanaethau – er enghraifft, cymdeithasau tai, gwasanaethau gofal cartref, ysgolion, colegau addysg bellach. 
  • Cyrff llywodraethol eraill a thimau awdurdod lleol – er enghraifft, cynghorau plwyf, gwasanaethau tai, gwasanaethau cymdeithasol. 
  • Unigolion dylanwadol – er enghraifft, landlord myfyrwyr adnabyddus, enwogion lleol, gwleidyddion, pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr. 
  • Grwpiau cymunedol ac elusennau – er enghraifft, clwb bocsio, Cynllun Gwarchod Cymdogaeth, grwpiau cymdeithasol i'r rhai dros 60 oed
  • Cwmnïau a sefydliadau preifat – er enghraifft, cyflogwr lleol mawr, campfa, deintydd, gwerthwr tai. 

Ni fyddwch yn gallu gweithio gyda phawb, felly yn ogystal â gwerthuso'r gwerth a ychwanegwyd gan bartneriaid presennol yn ystod y canfasiad diwethaf ac mewn etholiadau arfaethedig, dylech ystyried: 

  • pwy fydd yn gallu cyrraedd eich grwpiau targed orau
  • agweddau ymarferol ar y broses gydweithio
  • unrhyw ffactorau lleol eraill

Gall fod yn fuddiol categoreiddio eich rhestr o bartneriaid, gan nodi'r partneriaid hynny fydd angen help i gyflawni gweithgarwch manwl, a'r rhai sydd wedi cytuno i drosglwyddo neu hyrwyddo negeseuon cofrestru. 

Gall partneriaethau a fydd, o bosibl, yn cymryd cryn dipyn o amser i'w sefydlu ac yn cyrraedd nifer fach o bobl, fod yn werth chweil o hyd os yw'r bobl y maent yn eu cyrraedd yn uchel ar eich rhestr darged ac nad ydynt yn debygol o fod yn ymgymryd â gwaith arall.  
Yn yr un modd, gellid o leiaf ystyried sefydliad sy'n gweithio gyda phreswylwyr nad ydynt ar eich rhestr darged, ond sy'n cyrraedd nifer fawr o breswylwyr ac sy'n ymrwymedig i dreulio amser yn lledaenu eich negeseuon.
 
Mae hefyd yn bwysig cynllunio i weithio gyda gwleidyddion a phleidiau gwleidyddol drwy gydol y flwyddyn fel eu bod yn deall sut mae'r broses gofrestru yn gweithio. Gall ymgeiswyr a'u cefnogwyr ehangu eich cyrhaeddiad drwy hyrwyddo'r broses gofrestru yn ystod eu hymgyrchoedd etholiadol. Os na fydd ymgeiswyr, pleidiau a gwleidyddion yn ymgysylltu, mae risg y gallant ddarparu negeseuon a gwybodaeth anghywir neu anghyflawn.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021