Wrth sefydlu partneriaeth, efallai y byddwch am gael sgwrs dros y ffôn neu gyfarfod wyneb yn wyneb, yn enwedig ar gyfer partneriaethau mawr, lle y dylid trafod y pwyntiau canlynol:
esbonio pam mae'r bartneriaeth yn fuddiol i'r ddau barti
cytuno ar lefel y gefnogaeth y bydd y partner yn ei chynnig
deall y dulliau gweithredu y bydd yn eu defnyddio i gyrraedd ei gynulleidfa
cytuno a oes angen unrhyw ddeunyddiau ac, os felly, pwy fydd yn eu llunio
cytuno ar y negeseuon y bydd yn eu defnyddio i gyfathrebu â'i gynulleidfa
cytuno ar y wybodaeth y bydd yn ei darparu am sut y gall y gynulleidfa ymateb neu ble y gall gael mwy o gymorth
cytuno pwy yn yr awdurdod lleol fydd ar gael i ateb cwestiynau'r partner
bod yn glir ynghylch yr amseru a phryd y bydd angen i negeseuon newid
nodi cyfleoedd rheolaidd i gyfathrebu
sicrhau os nad yw pethau'n mynd fel y bwriadwyd ei fod yn gallu rhoi'r gorau i'r gweithgarwch a dychwelyd deunyddiau lle y bo'n berthnasol