Sut y gall partneriaethau helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd?

Sut y gall partneriaethau helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd? 

Gall partneriaethau eich helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd drwy wneud y canlynol: 

  • rhannu negeseuon – mae rhai grwpiau cymdeithasol yn fwy tebygol o ymateb i negeseuon a rennir gan rywun y maent yn ei wybod ac yn ymddiried ynddo – er enghraifft, arweinydd neu sefydliad cymunedol uchel ei barch 
  • ehangu cyrhaeddiad eich hysbysebion – er enghraifft, gall deintydd osod posteri yn ei ystafell aros neu gallech osod rhai mewn adeiladau cymunedol neu ar hysbysfyrddau cyhoeddus
  • cynnwys gwybodaeth yn yr ohebiaeth a anfonir ganddynt eisoes
  • cynyddu eich capasiti drwy ateb cwestiynau pobl a'u helpu i lenwi ffurflenni – er enghraifft, sefydliadau elusennol

Gallai gweithgareddau partneriaeth eraill gynnwys:

  • darparu ffurflenni cofrestru i werthwyr tai eu hatodi i gontractau rhentu
  • nodi elusen sydd â gwirfoddolwyr sy'n barod i helpu pobl i lenwi ffurflenni
  • gweithio gyda chyflogwr lleol mawr sy'n awyddus i gefnogi achosion cymunedol
  • darparu deunyddiau ar ddemocratiaeth a chofrestru neu gydweithio i ddarparu gweithdy ar y pynciau hynny

Efallai y bydd partneriaid yn gallu nodi cyfleoedd eraill nad ydych wedi'u hystyried eto hefyd. 

Wrth ddewis partneriaid priodol i ymgysylltu â'r rhai o dan 16 oed, dylech ystyried ceisio cyngor gan eich gwasanaethau addysg lleol a'ch adrannau amddiffyn plant. 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021