Risgiau o ran partneriaethau

Risgiau o ran partneriaethau

Ni ddylai risgiau eich atal rhag gweithio gyda phartneriaid, ond dylent gael eu nodi yn eich cofrestr risgiau a phroblemau a bydd angen i chi nodi camau i'w lliniaru. 

Ymhlith rhai risgiau posibl mae'r canlynol: 

  • Mae'r bartneriaeth yn arwain at gwynion ar raddfa eang – er enghraifft, os bydd partner yn ymgymryd â gweithgarwch ymgyrchu gwleidyddol, efallai y bydd canfyddiad nad yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn wleidyddol niwtral
  • Mae'r partner yn camgyfleu eich neges – a yw'n deall y gydberthynas a'i gyfrifoldebau? A yw'n deall y neges rydych eisiau ei chyfleu i breswylwyr ac yn cadw at y neges honno, a pha mor bwysig ydyw os nad yw'n gwneud hynny? A yw'n glir pryd y bydd y gwaith yn dod i ben, neu pryd y bydd y neges yn newid? 
  • Nid yw'r partner yn gwneud y gwaith y cytunwyd arno – a yw'r risg hon yn fwy sylweddol am eich bod wedi neilltuo amser ac wedi gwario arian ar y gydberthynas? Efallai fod y partner wedi camddeall y llwyth gwaith, neu fod blaenoriaeth annisgwyl ganddo, neu efallai ei fod wedi dechrau mynd i gostau ychwanegol ac yn disgwyl iddynt gael eu had-dalu  
  • Diflasu ar y broses gofrestru – efallai y bydd brwdfrydedd cychwynnol yn pylu felly bydd yn bwysig ceisio cynnal y momentwm wrth weithio mewn partneriaeth, drwy barhau i gyfathrebu a darparu adborth er enghraifft
  • Mae'r gost yn gwrthbwyso'r manteision – efallai y byddwch yn llunio deunyddiau cynhwysfawr ac ni fydd y sefydliad yn gwneud fawr ddim i gefnogi eich gwaith cofrestru

Dylech ystyried sut y dylid ymateb os bydd sefydliad partner yn denu sylw negyddol yn y wasg, a all daflu bai ar eich awdurdod lleol.  

Dylech werthuso pa mor effeithiol oeddech yn lliniaru unrhyw risgiau wrth weithio gyda phartneriaid. Dylai'r pwyntiau dysgu hyn gael eu hadlewyrchu wrth ddiweddaru eich strategaeth ymgysylltu er mwyn helpu i lywio'r ffordd y byddwch yn mynd ati i weithio mewn partneriaeth yn y dyfodol. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021