Gallwch annog unigolyn i wneud cais ar ôl i chi roi gwahoddiad ffurfiol i gofrestru. Gall fod amgylchiadau, er enghraifft yn union cyn etholiad, lle y dylech annog pobl i gofrestru'n anffurfiol yn hytrach nag aros i'w gwahodd yn ffurfiol i gofrestru.
Gall annog unigolyn i wneud cais, yn enwedig cais ar-lein, wella effeithlonrwydd a lleihau eich costau am na fydd yn rhaid i chi ddechrau'r broses gwahoddiad i gofrestru ffurfiol, a fyddai'n cynnwys gweithgarwch dilynol os na fyddech yn cael ymateb.
Gallwch ddefnyddio gwybodaeth gyswllt a roddir i chi gan unigolion ar ohebiaeth ganfasio at unrhyw ddiben priodol mewn perthynas â hawl yr unigolyn hwnnw i gael ei gofrestru, neu at ddiben cyflawni eich dyletswydd i annog cofrestriad etholiadol.1
Os byddwch yn penderfynu annog unigolyn yn anffurfiol i wneud cais, dylech wneud hynny cyn gynted â phosibl ar ôl i chi nodi unigolyn, er mwyn rhoi amser iddo wneud cais cyn i wahoddiad ffurfiol gael ei roi.
Dylech annog unigolion i wneud cais drwy:
e-bostio dolen i'r ffurflen gais ar-lein a rhoi gwybodaeth am y sianeli cofrestru eraill sydd ar gael os oes gennych gyfeiriad e-bost
annog unigolyn i wneud cais i gofrestru wrth fynd ar drywydd gohebiaeth ganfasio dros y ffôn, os ydych wedi nodi darpar etholwyr newydd
rhoi gwybodaeth am sut i gofrestru dros y ffôn neu mewn e-bost i unigolion sy'n cysylltu â chanolfan gyswllt yr awdurdod lleol ynghylch newid cyfeiriad
Dylai unrhyw ddulliau a ddefnyddir i annog unigolion i wneud cais hefyd eich galluogi i nodi darpar etholwyr eraill a all fod yn byw yn yr un cyfeiriad, a'u gwahodd i gofrestru.
Dylech ystyried sut y byddwch yn gwerthuso eich dull o annog unigolion i wneud cais er mwyn deall pa mor effeithiol ydyw o ran annog unigolion i gofrestru a lleihau nifer yr etholwyr rydych yn eu gwahodd yn ffurfiol i gofrestru. Gall canlyniad unrhyw werthusiad a gynhelir nodi pa ddulliau sydd fwyaf effeithiol, gan eich galluogi i deilwra eich dull o annog unigolion i wneud cais yn eich ardal leol.
Nid oes rhaid i chi roi gwahoddiad i unigolyn sydd, ar ôl cael ei annog yn anffurfiol, yn gwneud cais cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod y mae'n rhaid rhoi gwahoddiad i gofrestru.
Os na fydd achos o annog unigolyn i wneud cais i gofrestru yn arwain at gais yn cael ei wneud, bydd yn ofynnol i chi anfon gwahoddiad i gofrestru o hyd o fewn 28 diwrnod i'r adeg y byddwch yn dod yn ymwybodol o'r darpar etholwr.
Rhannu arferion da
Ceir rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau o sut mae rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn defnyddio deunydd swyddfa a deunyddiau cofrestru i annog ymatebion yn ein hadnodd ‘Annog ymatebion’.