Sut y dylid rhoi gwahoddiad i gofrestru i bleidleisio?


Rhaid rhoi gwahoddiad i gofrestru naill ai drwy ei ddosbarthu i'r unigolyn (yn cynnwys drwy'r post) neu drwy ei adael yng nghyfeiriad yr unigolyn.1  

Gellir rhoi'r gwahoddiad i gofrestru drwy ddull electronig hefyd, yn cynnwys drwy e-bost.2  

Ni ellir rhoi gwahoddiad i gofrestru ar lafar, er enghraifft dros y ffôn, er y gallwch annog ceisiadau i gofrestru yn anffurfiol drwy unrhyw ddull addas cyn neu ar ôl i chi roi gwahoddiad.

Pan fyddwch wedi penderfynu sut i roi gwahoddiad i gofrestru, dylech sicrhau bod gennych brosesau ar waith i greu trywydd archwilio o'r dosbarthiadau. Cyn y gallwch ei gwneud yn ofynnol i unigolyn wneud cais i gofrestru, bydd angen i chi sefydlu ei fod wedi cael o leiaf un gwahoddiad i gofrestru. 

Efallai y byddwch am sicrhau bod o leiaf un o'r gwahoddiadau i gofrestru yn cael ei ddosbarthu â llaw. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i chi bod gwahoddiad i gofrestru wedi'i ddosbarthu. 

Dylai eich strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd a'ch cynllun cofrestru adlewyrchu eich ystyriaethau o'r dull o ddosbarthu gwahoddiadau i gofrestru. 

Amlenni

Os byddwch yn dosbarthu gwahoddiad papur i gofrestru, dylech gyfeirio'r brif amlen at yr unigolyn a enwyd yn y cyfeiriad a nodwyd gennych. Rhaid i chi gynnwys y wybodaeth ganlynol ar yr amlen:3  

  • cyfarwyddyd yn nodi na ddylid ailgyfeirio'r amlen os bydd y cyfeiriad wedi'i nodi'n anghywir
  • cyfarwyddyd yn nodi y dylai unrhyw unigolyn arall sy'n derbyn yr amlen ac sy'n byw yn y cyfeiriad eich hysbysu os nad yw'r unigolyn y mae'r amlen wedi'i chyfeirio ato yn byw yno
  • eich manylion cyswllt

Rhaid i chi hefyd gynnwys gyda'r gwahoddiad i gofrestru – heblaw am un a anfonwyd yn electronig – amlen ymateb ragdaledig barod, y gellir ei defnyddio i ddychwelyd y ffurflen.4  

Mae'r cynnwys a awgrymir ar gyfer amlenni, sy'n cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol, a chanllawiau ategol ar gael yma.     

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021