Beth os caf gais i adolygu fy mhenderfyniad i gyhoeddi cosb sifil?
Gall unigolyn ofyn i chi adolygu eich penderfyniad i osod cosb sifil. Mae cyfnod o 14 diwrnod calendr i chi adolygu eich penderfyniad sy'n dechrau ar ddyddiad yr hysbysiad1
. Dylech sicrhau bod yr hysbysiad o gosb sifil yn cael ei roi ar y diwrnod a nodwyd.
Rhaid i unrhyw gais i adolygu eich penderfyniad i osod cosb sifil gael ei wneud yn ysgrifenedig (sy'n cynnwys drwy e-bost)2
.
Os byddwch yn cael cais am adolygiad o fewn 14 diwrnod calendr i'r hysbysiad, rhaid i chi anfon hysbysiad o gydnabyddiaeth at yr unigolyn o fewn 7 diwrnod calendr i gael y cais, yn dweud wrtho bod ganddo hyd at 14 diwrnod calendr o ddyddiad yr hysbysiad o gydnabyddiaeth i wneud y canlynol:3
gwneud sylwadau yn esbonio pam nad yw wedi gwneud cais i gofrestru neu pam y dylid canslo'r gosb sifil,
cyflwyno tystiolaeth i gefnogi sylwadau o'r fath
Rhaid i chi hefyd esbonio yn yr hysbysiad o gydnabyddiaeth sut y gellir gwneud unrhyw sylwadau a sut y gellir cyflwyno unrhyw dystiolaeth.4
Dylid dyddio'r hysbysiad o gydnabyddiaeth a'i anfon ar yr un diwrnod, gan fod dyddiad y gydnabyddiaeth yn pennu dechrau'r cyfnod o 14 diwrnod ar gyfer gwneud sylwadau.