Beth yw'r broses cosb sifil os na fydd rhywun yn gwneud cais i gofrestru i bleidleisio?
Gallwch osod cosb sifil ar unigolion a gafodd ofyniad i gofrestru ond a fethodd â gwneud cais i gofrestru erbyn y dyddiad a nodwyd gennych yn yr hysbysiad o ofyniad i gofrestru.1
Dylai fod gennych broses ar waith ar gyfer gosod cosbau sifil. Dylai hyn gynnwys sut y byddwch yn gwneud y canlynol:
gwneud y trefniadau ar gyfer casglu unrhyw arian
rhoi cyfrif am unrhyw arian a gesglir
sicrhau y caiff unrhyw arian a gesglir ei ddychwelyd i Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau i'w dalu i mewn i'r Gronfa Gyfunol
Efallai y byddwch am geisio cyngor ar gynnal y broses cosb sifil a chasglu cosbau gan adrannau eraill yn y cyngor sydd â phrofiad o gynnal prosesau tebyg, yn cynnwys adran gyfreithiol y cyngor.
Os byddwch yn penderfynu gosod cosb sifil ar unigolyn, rhaid i chi roi hysbysiad o gosb sifil yn ei hysbysu bod cosb wedi'i gosod, a nodi'r rhesymau dros hynny2
.
Ni ellir gosod cosb sifil ar unrhyw unigolyn dan 16 oed am beidio ag ymateb i ofyniad i gofrestru, ac mae'r gwahoddiad i gofrestru yn egluro nad yw'r gosb sifil yn gymwys i unrhyw unigolyn o'r fath3
.