Dylai etholwyr posibl a nodwyd, er enghraifft drwy gael ymateb llwyddiannus i gyfathrebiad ynghylch y canfasiad, cyswllt uniongyrchol gan unigolion, y broses cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig neu drwy broses cyfateb data lleol arall, gael eu gwahodd i wneud cais i gofrestru i bleidleisio lle eu bod yn gymwys. Dylech wneud hyn drwy anfon gwahoddiad i gofrestru (ITR) a ffurflen gais.
Mae’n rhaid i’r ITR wahodd etholwyr posibl i wneud cais i gofrestru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ac ymhen 28 diwrnod calendr o’r dyddiad rydych wedi nodi y gallant fod â hawl i gofrestru.
Lle bo’r cyfnod o 28 diwrnod yn dod i ben ar benwythnos neu ŵyl y banc, caiff y cyfnod ei ymestyn i’r diwrnod gwaith nesaf.1
Dylai eich EMS gael ffordd o gadw cofnod o’r dyddiad rydych yn dod i’r casgliad y gall unigolyn fod â hawl i gofrestru, sydd yna’n dechrau’r cyfnod o 28 diwrnod.
Dylech gael proses ar waith i nodi p’un a yw cais i gofrestru wedi cael ei wneud cyn i chi roi gwahoddiad. Ni ddylech roi ITR i unigolyn sydd wedi gwneud cais i gofrestru, neu os ydych yn nodi nad yw’n gymwys i gofrestru i bleidleisio.
Efallai y gall eich EMS awtomeiddio proses i ddod o hyd i geisiadau a gafwyd drwy unrhyw un o’r sianeli a ganiateir cyn i chi roi ITR.
Os nad yw enw ar gais yn cyfateb yn union ag enw’r unigolyn rydych wedi anfon gwahoddiad neu hysbysiad cofrestru ato, efallai y bydd rhywfaint o waith gwirio ceisiadau yn ymarferol yn ofynnol.
Gallai gwiriad ymarferol gael ei wneud drwy groeswirio manylion ar gais â’ch rhestr o etholwyr newydd posibl yr ydych wedi anfon ITR neu hysbysiad cofrestru atynt.