Pryd y gallaf ei gwneud yn ofynnol i unigolyn wneud cais i gofrestru i bleidleisio?

Os byddwch wedi rhoi trydydd gwahoddiad i gofrestru ac, ar ôl cyfnod rhesymol o amser, na fyddwch wedi cael ymateb a byddwch wedi cynnal o leiaf un ymweliad i annog unigolyn i wneud cais, gallwch ei gwneud yn ofynnol i unigolyn gyflwyno cais i gofrestru erbyn dyddiad penodol. Rhaid i chi wneud hyn drwy hysbysiad ysgrifenedig1 .  

Nid yw'n ofynnol i chi gynnal ymweliad personol cyn y gellir rhoi gofyniad i gofrestru i unigolyn dan 16 oed2 .  

Cyn y gallwch ei gwneud yn ofynnol i unigolyn wneud cais i gofrestru, rhaid i chi gadarnhau bod yr unigolyn:

  • wedi cael o leiaf un gwahoddiad i gofrestru3  – yn ddelfrydol, dylech gael cadarnhad gan yr unigolyn a enwyd, er enghraifft cadarnhad ysgrifenedig ei fod wedi ei dderbyn neu ddatganiad ysgrifenedig gan ganfasiwr ei fod wedi rhoi gwahoddiad i'r unigolyn yn bersonol. Byddai cadarnhad drwy e-bost neu dros y ffôn yn dderbyniol hefyd ac, os na chaiff yr alwad ffôn ei recordio, dylech wneud nodyn ysgrifenedig o'r sgwrs
  • wedi cael ymweliad personol i'w annog i wneud cais4  – mae'n rhaid bod unigolyn eisoes wedi cael ymweliad personol fel rhan o'r prosesau gwahoddiad i gofrestru dilynol
  • wedi cael ei hysbysu ynghylch sut i wneud cais i gofrestru5  – bydd eich gwahoddiad i gofrestru eisoes wedi hysbysu'r unigolyn ynghylch sut y gall wneud cais i gofrestru
  • wedi cael ei hysbysu y gallwch osod cosb sifil os byddwch yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud cais ac na fydd yn gwneud hynny6  – bydd eich gwahoddiad i gofrestru eisoes wedi cynnwys esboniad o'r amgylchiadau lle y gellir rhoi cosb sifil, a'r swm
  • yn byw yn y cyfeiriad lle y rhoddwyd y gwahoddiadau i gofrestru7  – dylech ystyried a oes unrhyw gofnodion lleol y gallwch eu gwirio neu gamau eraill y gallwch eu cymryd i gadarnhau bod yr unigolyn yn byw yno 

Ni ellir gosod cosb sifil ar unrhyw unigolyn dan 16 oed am beidio ag ymateb i ofyniad i gofrestru8 ,   ac mae'r gwahoddiad i gofrestru yn egluro nad yw'r gosb sifil yn gymwys i unrhyw unigolyn o'r fath.

Dylid cynllunio eich dull o gadw cofnodion a'ch prosesau ar gyfer rhoi gwahoddiadau i gofrestru a chynnal ymweliadau personol er mwyn sicrhau y gallwch fod yn fodlon bod yr holl ofynion hynny wedi'u cadarnhau. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021