Pa wybodaeth y mae'n rhaid i'r hysbysiad o'r gofyniad i gofrestru ei chynnwys?
Rhaid i'r hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i unigolyn wneud cais i gofrestru nodi'r canlynol:1
y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i gofrestru
os na fydd yr unigolyn yn gwneud cais erbyn y dyddiad hwnnw, y gallwch osod cosb sifil
swm y gosb sifil (£80) a chyfradd y llog a fydd yn daladwy os na chaiff y gosb ei thalu ar amser
os nad yw'r unigolyn yn gymwys i gael ei gofrestru, bod yn rhaid iddo eich hysbysu am hynny cyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud y cais ac esbonio pam nad yw'n gymwys, ac mewn achos o'r fath, nad yw'n ofynnol iddo wneud cais i gofrestru
os yw'r unigolyn wedi'i gofrestru mewn cyfeiriad arall, bod yn rhaid iddo eich hysbysu am hynny cyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud y cais a rhoi'r cyfeiriad hwnnw i chi, ac mewn achos o'r fath, nad yw'n ofynnol iddo wneud cais i gofrestru
y gall yr unigolyn wneud sylwadau eraill ynghylch pam na ddylai fod yn ofynnol iddo wneud cais i gofrestru erbyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud y cais, neu pam na ddylid gosod cosb sifil os na fydd yn gwneud hynny
Ceir hysbysiad enghreifftiol o ofyniad i gofrestru yma.
Nid yw'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais wedi'i ragnodi. Wrth benderfynu ar y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, dylech neilltuo digon o amser i'r unigolyn gael yr hysbysiad, ystyried y wybodaeth a chyflwyno cais. Fel gyda'r cyfnod hiraf a argymhellir a fyddai'n cael ei ystyried yn rhesymol mewn perthynas â gwahoddiad i gofrestru, yn y rhan fwyaf o achosion, byddai 28 diwrnod calendr yn caniatáu digon o amser i'r unigolyn gael yr hysbysiad, ystyried y wybodaeth a chyflwyno cais.
Rhaid i chi gynnwys cais i gofrestru gyda'r hysbysiad a dylai enw a chyfeiriad llawn yr unigolyn fod wedi'i ragargraffu ar y cais2
. Dylech hefyd gynnwys amlen ddychwelyd ragdaledig barod gyda'r cais, yn ogystal â gwybodaeth am sut i gofrestru ar-lein, neu dros y ffôn neu yn bersonol (os ydych yn cynnig y gwasanaethau hynny).