Pryd y gallaf ganslo hysbysiad o'r gofyniad i gofrestru?
Rhaid i chi ganslo gofyniad i gofrestru os bydd unrhyw un o'r canlynol yn gymwys o ganlyniad i ohebiaeth uniongyrchol gan yr unigolyn neu wybodaeth arall1
:
rydych yn fodlon nad yw'r unigolyn yn gymwys i gael ei gofrestru yn y cyfeiriad y gwnaethoch roi'r gwahoddiadau i gofrestru
rydych yn fodlon bod yr unigolyn wedi'i gofrestru mewn cyfeiriad gwahanol
rydych yn canfod nad oedd unrhyw un o'r gofynion ar gyfer anfon hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i unigolyn gofrestru wedi'u bodloni
Mae gennych y disgresiwn i ganslo gofyniad i wneud cais i gofrestru os byddwch o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.2
Er enghraifft, efallai y byddwch o'r farn ei bod yn briodol canslo'r hysbysiad o ofyniad os bydd unigolyn yn sâl ac, o ganlyniad, na all wneud datganiad o wirionedd ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.
Fodd bynnag, dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig ac arbennig iawn y dylid defnyddio'r disgresiwn i ganslo hysbysiad, a dylid gwneud penderfyniad i ganslo fesul achos, gyda phob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei deilyngdod. Dylech gadw trywydd archwilio clir o'r penderfyniad a'r rheswm/rhesymau drosto.
Gall fod achosion unigol lle y byddwch yn cael gwybod na all unigolyn sy'n destun hysbysiad o ofyniad i gofrestru wneud cais o fewn y terfynau amser penodol. Er enghraifft, os bydd i ffwrdd o'i gyfeiriad am gyfnod estynedig. Ni ddylai hyn ynddo'i hun olygu y dylid canslo'r broses gofyniad i gofrestru, fodd bynnag, mewn amgylchiadau o'r fath, dylech ystyried ehangu'r amser a ganiateir i'r darpar etholwr gyflwyno ei gais yn lle hynny.
Pryd bynnag y byddwch yn penderfynu canslo'r gofyniad i gofrestru, rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig o'ch penderfyniad i'r unigolyn dan sylw3
.