Lle na ofynnwyd am adolygiad neu na wnaed apêl i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf, rhaid i'r taliad gael ei wneud o fewn 28 diwrnod calendr i ddyddiad yr hysbysiad o gosb sifil.1
Lle bydd yr unigolyn wedi gofyn am adolygiad neu wedi gwneud apêl i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf, rhaid i'r gosb sifil hefyd gael ei thalu o fewn 28 diwrnod calendr, ond caiff y cyfnod o 28 diwrnod ei atal tra bydd yr adolygiad neu'r apêl yn cael eu hystyried a bydd yn ailddechrau os bydd yr adolygiad neu'r apêl yn aflwyddiannus.2
Wrth gyfrifo'r cyfnod o 28 diwrnod, caiff y diwrnod y gofynnir am unrhyw adolygiad neu apêl ei eithrio a chaiff y diwrnod y daw'r adolygiad neu'r apêl i ben ei gynnwys.
Dylech gysylltu ag adran gyfreithiol eich cyngor ynghylch y broses ar gyfer adfer unrhyw ddyled os na fydd unigolyn yn talu'r gosb o fewn yr amserlen ofynnol. Os bydd taliad yn hwyr, caiff llog ei gronni ar gyfradd ddyddiol sy'n cyfateb i 8% y flwyddyn.3
Mewn achosion pan fydd unigolyn yn gwrthod talu, gellir gwneud cais i'r llys sirol, i adennill unrhyw ddyled ac unrhyw log a gronnwyd.4