Diben paru data lleol yw rhoi rhagor o wybodaeth i chi, y tu hwnt i'r data o broses baru'r Adran Gwaith a Phensiynau, y gallwch ei defnyddio i benderfynu a ddylid caniatáu cais newydd.
Dylech ystyried tair egwyddor wrth wneud penderfyniad yn seiliedig ar ddata lleol:
Dylech ystyried canlyniadau'r broses paru data yn erbyn cronfa ddata'r Adran Gwaith a Phensiynau cyn paru data lleol, os bydd hyn yn digwydd, ar gyfer unrhyw benderfyniad a wnewch
Dylech allu amddiffyn unrhyw benderfyniad a wnewch os caiff ei herio, gyda thrywydd archwilio clir
Dylech fod yn hyderus bod y wybodaeth leol a ddefnyddiwch yn cadarnhau pwy yw ymgeisydd newydd – os bydd gennych unrhyw amheuon, dylech symud ymlaen i'r broses eithriadau
Os na fydd y broses paru data lleol yn llwyddiannus, ni fydd angen ailgyflwyno'r cais er mwyn paru yn erbyn data'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Ym mhob achos, os na allwch ddod o hyd i'r ymgeisydd mewn data lleol neu os na allwch fod yn sicr bod data lleol yn cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd, rhaid i chi gyfeirio'r ymgeisydd at y broses eithriadau.
Pryd y gellir ychwanegu'r ymgeisydd at y gofrestr etholwyr?
Dylai ymgeiswyr y gellir cadarnhau pwy ydyn nhw drwy broses paru data lleol gael eu hychwanegu at y gofrestr etholwyr yn y diweddariad nesaf sydd ar gael, ar yr amod bod y meini prawf cymhwyso wedi cael eu bodloni a bod penderfyniad cadarnhaol wedi'i wneud ynglŷn â'r ymgeisydd. Dylid anfon llythyr cadarnhau os yw hynny'n briodol.
Dylai ymgeiswyr na ellir cadarnhau pwy ydyn nhw drwy broses paru data lleol gael eu cyfeirio at y broses eithriadau.