Camau i'w cymryd ar ôl i ddata gael eu dychwelyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Pan gaiff eich data a barwyd eu dychwelyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, bydd angen i chi asesu a yw'r sgôr ‘llwyddo/methu’ a roddwyd yn cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd. 

Canlyniadau paru llwyddiannus

Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dychwelyd sgôr ‘llwyddo’ ar gyfer pwy yw'r ymgeisydd, gallwch fod yn hyderus mai'r ymgeisydd yw'r person y mae'n honni bod ar ei ffurflen gais. 

Bydd hefyd angen i chi gadarnhau bod yr ymgeisydd yn bodloni meini prawf cymhwyso eraill (oedran, cenedligrwydd, ble mae'n byw) cyn penderfynu ar y cais. Efallai y byddwch eisoes wedi gwneud hyn cyn cael y canlyniadau paru gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Canlyniadau paru aflwyddiannus 

Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dychwelyd sgôr ‘methu’, bydd hyn yn dangos na fu modd cadarnhau pwy yw'r person hwnnw ac na allwch fod yn fodlon mai'r ymgeisydd yw'r person y mae'n honni bod ar ei ffurflen gais ar hyn o bryd. 

Gallwch gysylltu â'r ymgeisydd i holi a yw'r wybodaeth a roddwyd ar y ffurflen gais yn gywir, gan ddefnyddio unrhyw ddull cyfathrebu y mae gennych fanylion cyswllt ar ei gyfer. Dylech ofyn i'r ymgeisydd roi'r wybodaeth o'r cais yn llawn – enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol (dim ond os cafodd y cais ei wneud ar ffurflen bapur y bydd y manylion hyn wrth law). Dylid gwirio'r manylion hyn yn erbyn y cais gwreiddiol. 

Ni ddylech roi manylion unrhyw wybodaeth a roddwyd mewn cais i'r ymgeisydd.

Beth os oes gwall ar ffurflen gais yr ymgeisydd?

Os yw'r ymgeisydd wedi gwneud gwall ar ei ffurflen gais, dylech wneud y canlynol:

  • ailgyflwyno ei ddynodyddion personol i Wasanaeth Digidol IER er mwyn eu gwirio eto 
  • ysgrifennu at yr ymgeisydd i ddweud wrtho fod newid wedi cael ei wneud i'w gais, ar sail gwybodaeth ychwanegol a roddwyd ganddo 

Ni ddylech gynnwys unrhyw wybodaeth am ddynodyddion personol (rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni) yn y llythyr.

Beth os nad oes gwall ar ffurflen gais yr ymgeisydd?

Os nad oes gwall ar y ffurflen gais ac na ellir defnyddio ffynonellau data lleol (neu os na chawsant eu defnyddio) i allu cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd, dylech ysgrifennu at yr etholwr i roi gwybod iddo na fu modd cadarnhau pwy ydyw, a gofyn iddo gyflwyno dogfennau sy'n profi pwy ydyw. Gelwir hyn yn broses eithriadau.

Dylai ymgeiswyr y gellir cadarnhau pwy ydyn nhw naill ai drwy broses baru'r Adran Gwaith a Phensiynau neu drwy broses paru data lleol gael eu hychwanegu at y gofrestr etholwyr yn y diweddariad nesaf sydd ar gael, ar yr amod bod y meini prawf cymhwyso wedi cael eu bodloni a bod penderfyniad cadarnhaol wedi'i wneud ynglŷn â'r ymgeisydd. Dylid anfon llythyr cadarnhau os yw hynny'n briodol. 

Dylai ymgeiswyr na ellir cadarnhau pwy ydyn nhw naill ai drwy wiriad yr Adran Gwaith a Phensiynau neu drwy broses paru data lleol gael eu cyfeirio at y broses eithriadau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021