Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru
Rheoli rhoddion cyllido torfol
Mae cyfyngiadau ar y rhoddion y gall ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid eu derbyn. Dim ond ynghylch rhoddion dros £500 a roddir i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau y mae’r deddfau ar roddion yn berthnasol, yn benodol tuag at eu gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Nid yw’r deddfau’n cynnwys arian a geir at ddibenion cyffredinol y sefydliad.
Dim ond o ffynhonnell a ganiateir y gallwch chi dderbyn rhoddion dros £500.1 Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffynonellau a ganiateir a sut i wirio a yw gwahanol fathau o roddwyr yn rhai a ganiateir yn Gan bwy y gallwch chi dderbyn rhodd?.
Nid yw arian a roddir trwy dudalen we cyllido torfol sy’n £500 neu lai yn rhodd yn ôl cyfraith etholiadol ac nid yw’n adroddadwy.2
Rhaid i chi beidio â derbyn rhodd sy’n werth dros £500 os na allwch nodi pwy yw’r rhoddwr gwirioneddol, neu os yw’r rhodd yn ddienw.3 Rhodd ddienw yw pan na ddarperir unrhyw wybodaeth am y rhoddwr i’r person neu’r sefydliad sydd wedi derbyn y rhodd.
Ni ddylech dderbyn rhoddion gan blaid wleidyddol.4
Wrth dderbyn rhoddion, rhaid i chi fod yn ymwybodol o sefyllfaoedd lle mae’n ymddangos bod rhoddwr yn ceisio osgoi’r gyfraith ar yr hyn a ganiateir, er enghraifft, os bydd rhywun yn gwneud rhoddion lluosog o £500 neu lai. Mae’n drosedd ceisio osgoi’r rheolaethau ar roddion.5 Os ydych o’r farn y gallai hyn fod yn digwydd, cysylltwch â ni am gyngor.
Gwirio’r hyn a ganiateir
Unwaith y derbynnir rhodd, mae gennych 30 diwrnod i gynnal gwiriadau caniatâd a phenderfynu a ddylid ei derbyn neu ei dychwelyd.6 Y dyddiad derbyn yw’r dyddiad yr ydych yn derbyn yr arian o’r wefan cyllido torfol. Gall hyn fod yn wahanol i’r dyddiad y gwnaed y rhodd. Bydd pryd yr ydych yn derbyn yr arian yn dibynnu a yw’r platfform cyllido torfol yn caniatáu i chi godi arian yn ystod eich ymgyrch, neu unwaith y bydd wedi dod i ben.
Rhaid i chi gydymffurfio â deddfau rhoddion ar gyfer unrhyw rodd a roddir tuag at eich gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, p’un a dderbyniwyd hyn cyn neu yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Dylech gofnodi gwybodaeth ar gyfer yr holl roddion y byddwch yn eu gwirio, gan efallai y bydd angen i chi adrodd y manylion hyn yn eich ffurflen.
Gwirio rhoddion preifat
Rhodd cyllido torfol preifat yw pan nad yw manylion y rhoddwr i’w gweld ar dudalen cyllido torfol gyhoeddus, ond mae’r wybodaeth hon yn cael ei darparu i’r person a greodd y dudalen.
Gallwch dderbyn rhoddion cyllido torfol preifat, ar yr amod bod gennych y manylion sydd eu hangen i wirio caniatâd y rhoddwr.
Pan fyddwch yn derbyn rhodd cyllido torfol preifat dros £500 tuag at eich gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, dylech wneud yn siŵr bod gennych ddigon o wybodaeth am y rhoddwr i gynnal gwiriadau caniatâd.
Er enghraifft, rydych chi’n derbyn rhodd o £600 gan unigolyn tuag at gost rali gyhoeddus, ond dim ond enw a chyfeiriad e-bost mae’r rhoddwr wedi’u darparu. Dylech gysylltu â’r rhoddwr i ofyn am eu cyfeiriad cartref, a bydd angen i chi wirio a yw’r unigolyn ar gofrestr etholiadol y DU, ac felly yn rhoddwr a ganiateir.
Os na allwch wirio bod y rhoddwr yn un a ganiateir o’r wybodaeth sydd gennych, rhaid i chi ddychwelyd y rhodd.
Dychwelyd rhoddion nas caniateir
Os na allwch nodi pwy yw’r rhoddwr, neu os yw’r rhoddwr yn un nas caniateir, yna mae’n rhaid i chi ddychwelyd y rhodd o fewn 30 diwrnod i’w derbyn.7 Efallai y bydd y platfform cyllido torfol rydych chi’n ei ddefnyddio yn caniatáu i chi ddychwelyd y rhodd yn uniongyrchol i’r rhoddwr.
Os na allwch ddychwelyd y rhodd i’r rhoddwr, dylech ei dychwelyd i’r sefydliad ariannol a ddefnyddiwyd i drosglwyddo’r rhodd. Gallai hwn fod y platfform cyllido torfol rydych yn ei ddefnyddio, neu’r banc sydd wedi trosglwyddo’r rhodd ar ran y platfform.
Os nad yw’n bosibl dychwelyd y rhodd i’r rhoddwr neu’r sefydliad ariannol, cysylltwch â ni gan fod yn rhaid i chi anfon y rhodd i’r Comisiwn Etholiadol. Byddwn yn talu’r rhodd i’r Gronfa Gyfunol a reolir gan Drysorlys EF.8 Cysylltwch â ni i drefnu trosglwyddo’r arian hwn.
- 1. Atodlen 11, paragraff 6 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 4(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 6(1)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 11, para. 1(6) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 11, para. 8 ac adran 61 PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 11, para. 7 PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 11, para. 7 PPERA ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 11, para. 7 ac a.57(3) PPERA ↩ Back to content at footnote 8