| Argraffu'r canllawiau llawn

Cymdeithasau anghorfforedig

Beth sy’n gwneud cymdeithas anghorfforedig yn un a ganiateir?

Mae cymdeithas anghorfforedig yn rhoddwr neu’n fenthyciwr a ganiateir os:

  • os oes mwy nag un aelod
  • os yw’r brif swyddfa yn y DU
  • os yw’n cynnal busnes neu weithgarwch arall yn y DU1

Sut ydych chi’n gwirio caniatâd?

Nid oes cofrestr sy’n cynnwys pob cymdeithas anghorfforedig. Bydd angen i chi wirio manylion y gymdeithas anghorfforedig ym mhob achos. 

Yn gyffredinol, cymdeithas anghorfforedig yw cymdeithas â dau neu fwy o unigolion sydd wedi dod ynghyd i gyflawni diben a rennir.

Mae gan gymdeithas anghorfforedig aelodau adnabyddadwy sydd wedi’u rhwymo gan reolau adnabyddadwy neu gytundeb rhwng yr aelodau. Mae’r rheolau hyn yn nodi sut y dylid rhedeg a rheoli’r gymdeithas anghorfforedig.

Weithiau gellir ffurfioli’r rheolau, er enghraifft mewn cyfansoddiad ysgrifenedig. Fodd bynnag, nid oes angen iddynt gael eu ffurfioli.

Er enghraifft, mae clybiau aelodau weithiau yn gymdeithasau anghorfforedig.

Os nad ydych yn siŵr a yw cymdeithas yn bodloni’r meini prawf, dylech ystyried a yw’r rhodd gan yr unigolion ynddi mewn gwirionedd (yn hytrach na’r gymdeithas) neu a oes rhywun yn y gymdeithas yn gweithredu fel asiant dros eraill.

Os ydych yn credu mai dyma sydd wedi digwydd, dylech wirio caniatâd pob unigolyn sydd wedi cyfrannu mwy na £500 a’u trin fel y ffynhonnell.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gynnal busnes yn yr adran flaenorol Sut ydw i’n gwirio os yw cwmni’n cynnal busnes yn y DU?

Os yw cymdeithas anghorfforedig yn rhoi rhoddion gwleidyddol o fwy na £37,270 mewn blwyddyn galendr, dylech roi gwybod iddynt fod angen iddynt adrodd am hyn i ni.2  Cewch weld ein gwefan am ragor o gwybodaeth ar gymdeithasau anghorfforedig.

Beth sydd angen i chi ei gofnodi? 

Bydd angen i chi gofnodi:

  • enw’r gymdeithas anghorfforedig
  • cyfeiriad prif swyddfa’r gymdeithas3
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025